Roedd y Scarlets yn ymwybodol iawn bod angen iddynt wneud yn iawn am ganlyniadau'r tymor diwethaf yn erbyn Ulster ac roedd y tim yn amlwg yn awyddus iawn i wneud hynny o'r cychwyn cyntaf gan sicrhau buddugoliaeth o 24-17 yn y pendraw. Mae'r Scarlets wedi symud i'r 7fed safle yn y RaboDirect PRO12.
er i nifer o enwau mawr Ulster rhedeg i'r cae prynhawn Sadwrn doedd dim gobaith iddynt hel ofn ar chwaraewyr ifanc y Scarlets gyda dau chwaraewr lleol 20 mlwydd oed yn sgori ceisiau.
Cafwyd croeso cynnes gan y dorf o 7,000 hefyd wrth i'r bachwr Ken Owens, canolwr Scott Williams a'r mewnwr Tavis Knoyle ddod i'r cae ynghyd a'r capten sy'n dychwelyd o anaf Matthew Rees.
Adlewyrchwyd buddsoddiad y rhanbarth mewn rhoi cyfleoedd i dalent ifanc lleol wrth i'r canolwr ifanc o Borth Tywyn Adam Warren sgori cais yn erbyn Ulster - ei bedwerydd mewn pedwar ymddangosiad i'r Scarlets. Cefnogwyd hyn gan gais yn yr ail hanner i'r asgellwr ifanc Liam Williams a sgoriodd ei drydydd cais i'r rhanbarth.
Fe fydd perfformiadau arbennig Adam Warren yn ychwanegu i'r penbleth sy'n wynebu'r tim hyfforddi gyda nifer o chwaraewyr o safon yn brwydro am y crys yn yr un safleoedd gyda mis mawr o rygbi ar y gorwel - fe fydd y Scarlets yn wynebu'r Gweilch, Castres a Northampton Saints.
Gwelwyd reolaeth a phendantrwydd gan dim y Scarlets yn ystod y gem gyda'r cefnwr Dan Evans yn derbyn tlws Seren y Gem yn dilyn gwaith day n sicrhau tiriogaeth i'r tim cartref. Canmol ei waith wnaeth y prif hyfforddwr yn dilyn dwy berfformiad positif.
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets: "Roedd Dan yn holl bwysig yn ein canolyniad heddiw a hynny mewn amodau anodd. Cafodd ei gicio effaith bositif ar ein chwarae ac roedd hwn yn factor holl bwysig."
Dywedodd Davies ei fod yn bles a'r canlyniad a'r perfformiad ar y cyfan gan ystyried cryfder tim Ulster.
"Roeddwn i'n bles iaw'n a'r canlyniad heddiw a'r perfformiad ar y cyfan, mae angen gwella ar ambell agwedd o'r chwarae o hyd serch hynny. Roedd yn debyg iawn i'r gem yn erbyn Ulster yma y tymor diwethaf - fe ddaeth Ulster a tim cryf a nifer o chwaraewyr profiadol iawn ond roedd digon o hyder a chre ymysg ein chwaraewyr ni i sicrhau buddugoliaeth.
"Roedd ambell foment lle'r edrychodd yn debyg bod y bois wedi colli diddordeb ac maen rhaid iddynt sylweddoli bod yn rhaid cadw ffocws - hyd yn oed ar ol sgori.
"Ry'n ni gyd yn gwybod bod Ulster yn gallu cymryd cyfleoedd tebyg a dwyn y fuddugoliaeth. Ar y cyfan fe lwyddodd y bois i reoli'r gem yn dda o dan amodau anodd."
Aeth Davies ymlaen i ddweud bod y cyfleoedd a rhoddwyd i rai o dalent newydd y Scarlets dros yr wythnosau diwethaf wedi talu ar eu canfed.
Dywedodd: "Mae ein cenhedlaeth nesaf o Scarlets wedi ychwangu dyfnder i'n carfan - mae Adam Warren yn esiampl da o hyn ac ry'n ni'n falch iawn o'r datblygiad y mae wedi ei wneud. Mae'n braf gweld y chwaraewyr lleol yn dangos awydd i wisgo'r crys ac mae hyn yn creu cystaleuaeth yma.
"Ry'n ni eisiau i'r chwaraewyr rhyngwladol ddychwelyd ac deall bod yn rhaid iddynt gystadlu am eu llefydd."
"Mae wedi bod yn holl bwysig i ni sichrau momentwm yn ein gem ac ry'n ni wedi llwyddo gwnued hynny. Ni welwyd newidiadau mawr i'r tim er mwyn cadw'r cysondeb - dyna'n union oedd angen cyn wynebu'r Gweilch dydd Sadwrn.
Dywedodd pennaeth rygbi'r Scarlets ei fod yn braf gweld capten y rhanbarht, Matthew Rees, yn ol ar y cae ym Mharc y Scarlets. Dywedodd: "Mae'n wych i weld Matthew yn ol ar y cae ac mae'n edrych yn dda. Roedd yn brawf corfforol iddo yn erbyn pac Ulster ac fe ddangosodd ei fod yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol am yr her sydd o'i flaen.
"Mae gan Matthew lot i'w gynnig ar ac oddi ar y cae. Mae'n gryf yn gorfforol ac yn ei ddull o arwain; mae'n mynnu parch gan y chwaraewyr eraill ac mae'r tim yn gallu defnyddio'i brofiad ef pan o dan bwysau. Mae'n arwain trwy esiampl a does dim posib rhoi pris ar hynny."
Fe fydd gweddill chwaraewyr rhyngwladol y Scarlets yn dychwelyd i hyfforddi ym Mharc y Scarlets ddydd Iau.











