Mae'r tocyn newydd yn cynnig cyfle i gefnogwyr ddathlu 10 seren rhyngwladol y Scarlets: Deacon Manu (Fiji), Sean Lamont (Yr Alban), Sione Timani, (Tonga) a'r saith arwr Cymreig Stephen Jones, Tavis Knoyle, Ken Owens, Jon Davies, Rhys Priestland, Scott Williams a George North.
Gyda dros hanner ein gemau cartref yn weddill gan gynnwys gemau mawr Cwpan Heineken yn dal i ddod - does dim amser gwell i chi ymuno a'r dalwyr tocyn tymor.
Fe all teulu o bedwar fwynhau gweddill y tymor ym Mharc y Scarlets am £200; ac mae del gwych i fyfyrwyr hefyd, £25 am 11 gem (dim ond £2.27 y gem!).
Mae'r tocyn tymor yn cynnig gostyngiad o hyd at 50% ar bris tocyn teulu ar ddiwrnod gem a gyda 11 gem yn weddill nawr yw'r amser i ymuno a theulu'r Scarlets!
Dywedodd George Rashbrook, Rheolwr Cyffredinol Marchnata: "Mae'r angerdd a'r balchder a welwyd gan ein cefnogwyr dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn wych ac wedi rhoi hwb go iawn i'r rhanbarth.
" Ry'n ni gyd wedi gweld yr effaith mae llwyddiant tim Cymruw edi ei gael ar lefel yn gyffredinol. Mae wedi bod yn destun balchder i ni gyd yn y rhanbarth dros yr wythnosau diwethaf.
"Ynghyd a hyn mae carfan o chwaraewyr ifanc a thalentog wedi dangos eu doniau ar y cae i'r rhanbarth gyda buddugoliaethau cryf yn erbyn timau fel Teigrod Caerlyr a Gleision Caerdydd.
"Does dim amser gwell i ymuno a ni a gwylio'ch ser Cwpan Byd ar y cae nawr bod y gystadleuaeth wedi dod i ben.
"Fel daliwr tocyn tymor, mae ein cefnogwyr yn ein cynorthwyo i fuddsoddi yn nhalent y dyfodol, ac yn natblygiad y chwaraewyr ifanc. Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'n cefnogwyr i gyd ac felly ry'n ni'n cynnig tocyn tymor newydd i ddathlu."
"Mae ysbryd ein chwaraewyr wedi bod yn amlwg ymysg ein cefnogwyr sydd wedi byw'r emosiwn, yr her, a'r eiliadau euraidd yn ystod Cwpan y Byd. Ry'n ni am gadw'r ysbryd hwn yn fyw am weddill y tymor nawr bod y bois yn ol gyda ni a dangos balchder ynddyn nhw a'r chwaraewyr sydd wedi gwneud mor dda yma yn y rhanbarth yn eu habsennoldeb."
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets: "Mae'n anodd i ni werthfawrogi'r pwysau a'r sialensau y mae'r chwaraewyr yma wedi eu wynebu yn ystod Cwpan y Byd. Ond yr hyn sy'n hanfodol bwysig yn awry w sicrhau eu bod yn integreiddio yn ol i'r garfan yma gyda'r rhanbarth am eu bod wedi bod i ffwrdd am bum mis i bob pwrpas.
"Mae ein cefnogwyr yn gallu chwarae rol bwysig yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r croeso a'r gefnogaeth gan y dorf yn cael effaith bositif ar eu perfformiadau."
Mae'r tocyn dathlu newydd yn cynnwys yr 11 gem cartref sydd yn weddill ac fe fydd yn dechrau gyda gem Cwpan Heineken cynta'r rhanbarth eleni yn erbyn castres ar y 12fed Tachwedd. Mwy o wybodaeth yma.
Mae'r Scarlets yn cynllunio llond lle o weithgareddau i'r teulu oll ac fe fydd awyrgylch parti "croeso adref" ym Mharc y Scarlets ac ym Mhentref y Cefnogwyr cyn y gem fawr.
Fe fydd y tocyn tymor yn ddilys o'r 12fed Tachwedd 2011 pan fydd y Scarlets yn wynebu Castres yn y Cwpan Heineken ac fe fydd yn rhedeg tan ddiwedd y tymor.











