Am £6 yn unig fe allwch chi deithio i Stadiwm Liberty ar nos Sadwrn 5ed Tachwedd ar gyfer y gem ddarbi fawr yn erbyn y Gweilch.
Gyda ambell le yn weddill peidiwch a cholli'ch cyfle i fwynhau diwrnod gyda chefnogwyr eraill y Scarlets. Fe fydd y bws yn casglu fel a ganlyn:
- 16:00 Caerfyrddin
- 16:15 Cross Hands
- 17:00 Parc y Scarlets
- 17:45 Cyrraedd Stadiwm Liberty
Fe fydd y bws yn gadael Stadiwm Liberty 45 munud ar ol y chwiban olaf.
Fe fydd yn rhaid i chi archebu eich tocyn cyn teithio, cysylltwch a Natalia r 0871 871 8088 neu ebostiwch nbunyan@scarlets.co.uk
Ry'n ni'n cymryd archebion ar gyfer ail rownd Cwpan Heineken yn erbyn Northampton Saints ar nos Wener a'r gem ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn Dreigiau Casnewydd Gwent ar nos WEner 30ain Rhagfyr.
Trafnidiaeth Swyddodol Cefnogwyr y Scarlets i Franklin's Gardens, Northampton Saints v Scarlets, Gwener 18fed Tachwedd CG8pm:
£15.00 y person
- 12:00 Caerfyrddin
- 12:15 Cross Hands
- 12:40 Parc y Scarlets
Trafnidiaeth Swyddodol Cefnogwyr y Scarlets i Rodney Parade, Gwener 30ain Rhagfyr CG7.05pm:
£9.00 y person
Amseroedd i'w cadarnhau











