Y bachwr Matthew Rees, oedd ar y fainc wythnos diwethaf ar ol dychwelyd o lawdriniaeth i'w wddf, a fydd yn arwain ei dim sy'n gweld cyfle i rai o ser Cwpan y Byd y Scarlets gan gynnwys Scott Williams a'r talent newydd Adam Warren sydd wedi derbyn clod yn ddiweddar yn dilyn perfformiadau arbennig a phedair cais mewn pedair gem.
Ymysg ser Cwpan y Byd eraill sy'n dychwelyd y mae Tavis Knoyle, a fydd yn dechrau yn safle'r mewnwr, gyda Nigel Davies yn penderfynu enwi llond lle o chwaraewyr rhyngwladol profiadol yn y 23 gan gynnwys Ken Owens, Jon Davies, George North a Sione Timani.
Mae'r asgellwr Albanaidd Sean Lamont yn dychwelyd i'r asgell gyda Liam Williams ar yr asgell arall, un arall o genhedlaeth newydd y Scarlets sydd wedi derbyn clod am ei ddawn a'i ymrwymiad.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu'r gem ddarbi fawr ar noson Tan Gwyllt yn dilyn pedair buddugoliaeth a pherfformiad cryf yn erbyn tim llawn cryfder Ulster.
Mae'r Gweilch wedi colli y dair gem diwethaf ym mhob cystadleuaeth ond unwaith yn unig y mae'r Gweilch wedi colli yn Stadiwm Liberty yn y gystadleuaeth yn y 12 gem diwethaf. Y Gweilch sydd wedi ennill y chwech gem diwethaf rhwng y ddwy rhanbarth. Daeth buddugoliaeth diwethaf y Scarlets yn eu herbyn yn Stadiwm Liberty ym mis Medi 2007 14-9.
Tim y Scarlets i wynebu'r Gweilch 5ed Tachwedd 2011, Stadiwm Liberty cic gyntaf 6.30pm: 15 Daniel Evans, 14 Liam Williams, 13 Adam Warren, 12 Scott Williams, 11 Sean Lamont, 10 Stephen Jones, 9 Tavis Knoyle, 1 Iestyn Thomas, 2 Matthew Rees (capt), 3 Rhys Thomas, 4 Dominic Day, 5 Damian Welch 6 Aaron Shingler, 7 Rob McCusker, 8 Ben Morgan.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Phil John, 18 Rhodri Jones, 19 Sione Timani, 20 Richie Pugh, 21 Rhodri Williams, 22 Jon Davies, 23 George North.
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets: "Mae hwn wastad yn gem fawr i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr, mae gyda ni'r darlun ehanagach hefyd o gofio bod gemau Ewrop ar y gorwel wrth i'r Cwpan Heineken ddechrau ym Mharc y Scarlets dydd Sadwrn nesaf yn erbyn Castres.
"Fe ddaeth nifer o'n chwaraewyr rhyngwladol yn ol i hyfforddi dydd Iau felly mae wedi bod yn gyfnod tynn iawn iddyn nhw, mae'r gystadleuaeth yn anhygoel ar gyfer y crys ond fy marn i yw os ydyn nhw'n holl iach ac yn awyddus iawn i chwarae yna does dim rheswm iddynt beidio ymddangos yn y gem yma.
"Mae yna egni arbennig ym Mharc y Scarlets ar hyn o bryd, mae'r tim wedi adeiladu momentwm ac mae'n wych i wel y bois yn cyfuno unwaith eto ac yn barod ar gyfer gem fawr fel y gweilch.
"Mae Steve (Jones) wedi bod yn awyddus iawn i ddychwelyd wythnos hon a rhoi ei enw ar y crys rhif 10, mae cael rhywun o'i statws, a'i brofiad ef ar y cae yn beth positif i ni."
Ychwanegodd Davies nad yw'r bois yn meddwl am gemau tymor diwethaf yn erbyn y Gweilch. "Ry'n ni'n methu fforddio bod yn rhy emosiynol am y gem yn y Liberty Nadolig diwethaf, mae'n boenus wrth gwrs ei fod, ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y manylion a fydd yn caniatau i ni berfformio i'n potensial. Ry'n ni'n canolbwyntio ar y tymor yma - gem penwythnos hyn ac yna dychwelyd yma ar Wyl San Steffan yn erbyn y Gweilch.
"Ry'n ni'n gwybod bod y Gweilch yn dim anodd i chwarae yn erbyn, mae'r canlyniadau yn dangos hynny - mae'n her fawr i ni oddi cartref ond fe fyddwn ni'n siwr o rhoi o'n gorau ac mae'n gret gweld cynifer o chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd hefyd.
"Mae wedi bod yn anodd iawn i ddewis y tim yn dilyn perfformaidau gwych gan rai o chwaraewyr ifanc y rhanbarth tra bod y chwaraewyr rhyngwladol wedi bod i ffwrdd yn y Cwpan Byd. Roedd yn un o'r prif bwyntiau a nodwyd ar ddechrau'r tymor ein bod ni eisiau creu cystadleuaeth ymysg y garfan a dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae hwn yn beth da i ni yn yr hir dymor."











