Fe fydd Castres, sydd wedi cael dechrau cryf i'w tymor domestig, yn dim corfforol ac mae'r frwydr ddarbi wedi bod yn lwyfan perffaith i'r blaenwyr baratoi cyn wynebu'r Ffrancwyr.
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets, bod canlyniad cyfartal yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Liberty yn beth positif i'w dim er mwyn sicrhau'r momentwm cyn Ewrop. Mae'r Scarlets yn yr wythfed safle yn nhabl RaboDirect PRO12 ar 17 pwynt ac yn gyfartal ag Ulster.
Dywedodd Nigel Davies: "Ry'n ni wedi rhoi'r canlyniad hwn mewn cyd-destun o ran lle ry'n ni'n anelu ato - ry'n ni'n cadw'r momentwm yn fyw ac ry'n ni'n bendant yn gwella fel tim. Rwyf wir yn credu mai dyma'r carfan gryfaf ers pedair blynedd."
Ychwanegodd Davies bod dyfnder y garfan yn rhywbeth positif hefyd. Dywedodd: "Pan ry'n ni'n hyfforddi ar ddydd Iau mae yna ddau dim ar y cae yn chwarae'n erbyn ei gilydd ac fe allai'r ddau dim wedi chwarae'n erbyn y Gweilch heno. Mae hyn yn beth a i ni ac mae'n dangos cryfder yn y garfan - roeddwn i wir yn meddwl y dylem fod wedi ennill y gem yma heno.
"Ni gymerwyd y cyfleoedd i gyd ond mae'r Liberty yn le anodd i dimau ennill yno.
"Wrth edrych ar ein taith, datblygiad yw'r nod ac roedd heno'n bositif iawn i mi."
Ni welwyd ceisiau yn y gem ddarbi fawr er i'r Scarlets sgori 18 o geisiau mewn 10 gem gystadleuol y tymor hwn. Dywedodd Davies bod y gem yn baratoad "perffaith" i'r ddau dim cyn rygbi Ewrop.
Ychwanegodd Davies: "Dyma'r tro cyntaf i'n blaenwyr ni ddod yma a wynebu'r Gweilch ar yr un lefel a hwy, roeddwn i'n bles iawn i weld y sgrym yn gweithio mor dda.
"Fe fydd yn hanfodol bwysig i ni chwarae gem dda ymysg y blaenwyr yn erbyn timau corfforol fel Castres a Northampton.
"Ry'n ni yn wynebu ambell ddadl o ran dewis chwaraewyr ond mae rhaid gwneud y penderfyniadau cywir. Mae'n le da i fod cofiwch wrth ystyried pa mor wag oedd y cypyrddau cwpwl o flynyddoedd yn ol! Efallai bod peth pwysau arna i nawr ond mae'n bwysau da i'w gael gyda'r amrywiaeth o chwaraewyr sydd ar gael."
Dywedodd Davies bod y chwaraewyr rhyngwladol wedi gwneud yn dda gan ystyried eu bod ond wedi bod yn ol gyda'r Scarlets am cwpwl o ddiwrnodau.
Aeth ymlaen i ddweud: "Maent i gyd yn chwaraewyr talentog, dawnus a deallus ond mae'n anodd iawn i'r bois sydd wedi dod yn ol mewn - dau ddiwrnod yn unig y maent wedi cael i ail ddysgu ein strwythur a'n galwadau. Mae'n rhaid i ni gofio eu bod nhw wedi bod yn absennol o'n system ni am bum mis a nifer o'r rheini mewn safleoedd allweddol."
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets ei fod yn teimlo bod Stephen Jones wedi reoli'r gem yn dda ac y byddai'n siomedig iawn a'r garden felen.
"Roeddwn i'n bles iawn a Steve, fe ddangosodd egni a sgiliau arweinyddol gret. Fe fydd yn siomedig a'i gicio a'i gyfnod yn y gell gosb ond ar y cyfan fe chwaraeodd yn dda."
Ychwanegodd Davies bod y fainc wedi cael yr effaith yr oedd wedi gobeithio ei weld. "Daeth y chwaraewyr ymlaen a chael effaith ar y gem - fe wnaeth y chwaraewyr i gyd yn dda ac roedd George North yn niwsans i'r Gweilch yn y diwedd."
Mae prop y Scarlets Iestyn Thomas, sydd wedi chwarae mwy na 55 o gemau Cwpan Heineken, ac wedi arfer a wynebu timau mawr a chorfforol Ffrengig.
Mae'r prop penrhydd wedi chwarae 202 o gemau i'w rhanbarth ac mae'n dathlu blwyddyn dysteb eleni: "Roedd ychydig yn rhwytredig i beidio a dwyn y fuddugoliaeth ond ry'n ni'n bles i gymryd dau bwynt.
"Fe wnaeth y blaenwyr yn dda heno. Ry'n ni'n gwybod hefyd ein bod ni'n gallu gwneud yn well, fe fyddwn ni'n barod i godi i'r lefel nesaf wythnos nesaf. "
Dywedodd Thomas ei fod yn credu bod y Scarlets mewn safle da ar hyn o bryd. "Mae cyfle da gyda ni yn Ewrop eleni - mae'r bois sydd wedi dychwelyd o'r Cwpan Byd yn gallu ychwanegu rhywbeth cyffroud, mae yna chwaraewyr talentog iawn yma ac mae pawb yn llawn egni."
Mae Thomas yn un o brops pentynn cryfaf Cymru ac mae wedi bod yn gonglfaen pac y Scarlets dros y saith mlynedd diwethaf. Ymunodd o glwb Pontypwl ac mae ganddo restr o anrhydeddau i'w enw gan gynnwys 33 cap dros Gymru ar ol chwarae ei gem gyntaf yn erbyn Samoa yn 2000. Roedd yng ngharfan Cwpan Rygbi'r Byd 2003 hefyd.











