Fe fwynhaodd miloedd o bobl ei berfformiad o flaen stand y de ym Mharc y Scarlets ac mae erbyn hyn yn gobeithio gwneud bywoliaeth o berfformio ar ol rhoi'r gorau i'w swydd fel athro mathemateg dydd Llundiwethaf.
Cafwyd perfformiad egniol gan y gantores o Awstralia Gina G a rhyddaodd ei sengl gyntaf nol ym 1996. Aeth 'Ooh Aah Just a Little Bit' yn syth i frig y siartiau yn y DU.
Agorwyd y sioe gan un o ddisgyblion Ysgol Coedcae a thalent lleol Shannon.
Diddanwyd y dorf gan y triawd cyn arddangosfa tan gwyllt Pendragon, cafwyd ugain munud o dan gwyllt anhygoel cyn i'r dorf fwynhau gem fawr y Scarlets yn erbyn y Gweilch ar y sgriniau yn y stadiwm!
Dywedodd Pennaeth Digwyddiadau'r Scarlets, Rupert Moon: "Roedd digwyddiad eleni yn fwy nag erioed gyda dros 6,000 o bobl yn mwynhau'r noson yma ym Mharc y Scarlets.
"cafwyd awr o adloniant arbennig cyn arddangosfa tan gwyllt heb ei ail. Mae cynnig noson diogel a hwylus i'r teulu oll yn holl bwysig i ni yma ym Mharc y Scarlets ac ry'n ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Gar unwaith eto eleni i bwysleisio pwysigrwydd diogelwch ar noson tan gwyllt."
Hoffai'r Scarlets ddiolch i Town and Country Broadcasting am eu cefnogaeth trwy'r gorsafoedd radio Scarlet FM, Radio Sir Benfro, Radio Sir Gar a Radio Ceredigion.











