Fe fydd y digwyddiad, sy'n cael ei chynnal ar nos Fercher 30ain Tachwedd, yn rhad ac am ddim i bawb. Mae croeso i bawb, boed os ydych wedi tyfu Grav, wedi cyfrannu i'r ymgyrch, neu wedi ein dilyn ar Facebook neu Twitter, ry'n ni'n eich croesawu chi gy i'r noson arbennig yma.
Ar y noson fe fydd cyfle i ddynion sydd wedi cymryd rhan eillio'r barf. Fe fydd cyfle i fenywod fwynhau triniaeth spa hefyd!
Ymysg y gweithgareddau eraill y bydd cerddoriaeth byw gan The Rookz, raffl a chyhoeddi ennill Grow a Grav eleni.
Fe fydd y noson yn ffordd arbennig i ddathlu diwedd yr ymgyrch. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ebostiwch: growagrav@wrpa.co.uk
Fe allwch gyfrannu ar ein tudalen Just Giving www.justgiving.com/growagrav2011.
Mae ffurflenni noddi ar gael hefyd, anfonwch eich sieciau at:
Grow a Grav, c/o The Welsh Rugby Players Association, 3 Assembly Square, Britannia Quay, Bae Caerdydd, CF10 4PL.
Mae angen gwneud eich siec yn ddaladwy i 'WRPA Benevolent Trust.'











