"Pwy all anghofio'r gemau yn erbyn Toulouse - maeddu nhw getre ac yna dod yn ol yn eu herbyn yn Ffrainc yr wythnos wedyn!
"Rygbi, atgofion a tymor arbennig! Ond y trip hwnnw i Gaerlyr - anhygoel! Roedd y draffordd yn llawn o fysus a ceir o gefnogwyr yn gwneud eu ffordd i'r gogledd. Fe driodd yr efeilliaid cyfru'r nifer o fysus ond roedd cannoedd ohonyn nhw! Roed y maes parcio yn for o goch.
"Doedd Stadiwm Walkers ddim wedi gweld dim byd tebyg. Er i ni golli ar y diwrnod, roedd yn achlysur arbennig."
Roy Munster, Scarlet Fever: "Ein buddugoliaeth yn erbyn Toulouse yw ein gem Ewropeaidd gorau hyd yn hyn."
Lofty Evans, Scarlets Fever: "Y fuddugoliaeth yn erbyn Toulouse yn Ffrainc yw'r gem orau, redden nia r eu hol hi yn yr hanner cyntaf. Roedd yn fuddugoliaeth wych ac os fyddai'n cael ei throi mewn if film Hollywood fyddai neb yn credu'r peth!"
Salmidach, Scarlet Fever: "Gwyddelod Llundain oddi cartref, y cefnogwyr oedd y gwahaniaeth...."
David Vale, Aberdeen: "3 uchafbwynt i mi: 1. Trechu Caerfaddon ar y Rec yn rwond y cwarteri 2002 - gem arbennig iawn i gefnogwr Scarlets sy'n byw yng Nghaerfaddon! 2. Maeddu Wasos o 10 pwynt ar y Strade yn 2000 - y nifer cwmws o bwyntiau oedd angen i fynd id op y grwp. 3. Toulouse v Scarlets 2007. Anghredadwy."
Ymunwch a nia r gyfer dathliad arbennig dydd Sadwrn wrth i ni ymuno a Chlwb 100 Cwpan Heienken ynghyd a Toulouse, Munster, Leinster a Theigrod Caerlyr!
Scarlets v Castres Olympique, 100fed ymddangosiad yn y Cwpan Heineken, Parc y Scarlets, cic gyntaf 3pm.











