Mae'n carreg filltir nodweddiadol arall i'r Scarlets wedi i'r rhanbarth ddathlu 5,000 o gemau nol ym mis Medi ac yn paratoi i ddathlu 40 mlynedd ers trechu'r Crysau Duon ym 1972 ac 20 mlynedd ers trechu Awstrlia ar Barc y Strade.
Y Scarlets yw'r pumed clwb yn hanes y gystadleuaeth Ewropeaidd i gyrraedd 100 o gemau ac maent ymysg cwmni arbennig gyda Toulouse, Leinster a Leicester Tigers wedi cyrraedd y nod hefyd.
Mae gan y Scarlets draddodiad blach yn y Cwpan Heineken ac maent wedi cyrraedd tri rownd cyn derfynol ac wyth rownd cwarteri; mae saith chwaraewr presennol a chyn chwaraewyr wedi chwarae dros hanner cant o gemau gan gynnwys Stephen Jones (79), Iestyn Thomas (52), Vernon Cooper (65), Simon Easterby (56) a Garan Evans (54).
Dangosodd y dorf eu balchder hefyd o Stephen Jones ar ol y cyfraniad y mae ef wedi gwneud i hanes Ewropeaidd y clwb, fel prif sgoriwr pwyntiau'r rhanbarth ac mae hefyd yn agos at frig prif sgoriwr pwyntiau Cwpan Heineken.
Dywedodd Phil Bennett, Llywydd y Scarlets: "Mae hwn yn ddiwrnod balch arall yn ein hanes ac ry'n ni'n hynod o falch o dderbyn y gofeb yma fel rhanbarth cyntaf Cymru i gyrraedd 100 o gemau Cwpan Heineken.
"Ry'n ni wedi gweld nifer o gemau Cwpan Heineken arbennig ac ry'n ni'n edrych ymlaen i nifer mwy ohonyn nhw. Mae'n ganolbwynt balchder i bawb sydd ynghlwm a'r clwb i weld yr hyn sy'n digwydd ym Mharc y Scarlets. Mae lot fawr o waith caled, ymrwymiad a buddsoddiad yn cael eu wneud i ddatblygu'r talent gorau yn y rhanbarth.
"Ry'n ni'n llongyfarch y ser a wnaeth yn eithriadol o dda yn y Cwpan Byd ac fe fydd hyn yn sicr o gael effaith bositif ar genhedlaeth nesaf y Scarlets. Mae yna grwp agos iawn yma sy'n awyddus iawn i chwarae am y crys.











