Mae'r Scarlets wedi wynebu'r tim llwyddiannus ar chwech achlysur yn flaenorol ers genedigaeth rygbi rhanbarthol; mae'r canlyniadau yn gyfartal ar hyn o bryd gyda thri buddugoliaeth yr un. Y gem mwyaf nodweddiadol efallai oedd nol yn 2000 pan aeth Northampton a'r fuddugolaeith yn rownd cyn derfynol Cwpan Heineken yn Stadiwm Madejski.
Yn dilyn perfformiad cryf gan y blaenwyr yn erbyn tim corfforo Castres, mae'r Scarlets ar frig y ei grwp ac fe fydd y momentwm yn siwr o rhoi hwb a hyder iddyn nhw cyn y gemau nesaf.
Croesawyd chwaraewyr Cwpan Rygbi'r Byd yn ol i Barc y Scarlets ac roedd bob un ohonyn nhw ar eu gorau. Fe welwyd engi ac awydd gan bob un o'r ser oedd yn gwisgo crys y Scarlets; Sean Lamont, George North, Jon Davies, Stephen Jones a Scott Williams.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets ei fod yn falch o weld gwaith a ffocws y grwp yn enwedig ymysg y blaenwyr.
Dywedodd: "Roeddwn i'n falch iawn a'r ymdrech a'r ymrwymiad a welwyd heddiw, roedd y gwaith yn ardal y dacl yn gret ac fe enillwyd y gem gyda'r gwaith yma.
"Roedd Castres yn gryf iawn yn y sgrym ond mae'r bois wedi bod yn gweithio'n galed yn yr ardal yma ac ry'n ni wedi profi ein hunain yn erbyn tim cryf.
Aeth Davies ymlaen i longyfarch y gred ymysg y chwaraewyr yn 10 munud ola'r gem. "Fe ddangosodd y chwaraewyr ifanc aeddfedrwydd ac ymrwymiad arbennig yn y cyfnod olaf. Fe barahodd y bois i amddiffyn yn dda ac fe wnaethon nhw'n dda i ddal gafael ar y gem.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets nad oedd am enwi unigolion am eu gwaith ar ol perfformiad tim arbennig.
"Roedd yn rhaid i ennill y gem yma fel gem gartref ac roedd yn un allweddol i ni; mae wastad lle i fod yn fwy clinigol ond ni oedd y tim gorau ar y diwrnod ac fe sicrhawyd y fuddugoliaeth.
Dywedodd y canolwr a ddisgleiriodd yn y Cwpan Byd, Jon Davies, ei fod yn falch o fod yn ol yn y rhanbarth a dywedodd fod gan y Scarlets y gallu i greu perfformiadau arbennig.
Dywedodd: "Ry'n ni'n mwynhau ein rygbi yma ar hyn o bryd, mae gyda ni'r sgiliau a gyda ychydig mwy o hyder a momentwm fe allwn ni greu rygbi cyffrous iawn.
"Roedd y blaenwyr yn wych heddiw, roedd Castres yn dim corfforol iawn. Roedd yn gem llawn tempo a gyda Castres yn dechrau blino erbyn y diwedd roedd cyfle yno i ni fwrw ymlaen a sicrhau'r fuddugoliaeth.
"Roedd yn hanfodol bwysig i ni sicrhau'r sgor a mynd a'r pwynt bonws oddi wrthyn nhw, fe all fod yn bwysig iawn yn hwyrach yn y gystadleuaeth. Mae un pwynt yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr erbyn diwedd rowndiau'r grwp.
Aeth Davies ymlaen i egluro ei rhan ef yng nghais Ben Morgan o 22 y Scarlets: "Roeddwn i'n ceisio cad war ysgwydd Matthew (Rees) a dorrodd o'r chwarae yn gyflym iawn, death y bel ata i ac aeth ymlaen at George a wnaeth waith arbennig cyn dod o hyd i Ben oedd yn ei gefnogi. Roedd yn gais tim arbennig.
"Mae'r rygbi ry'n ni'n chwarae yma yn gyffrous iawn, er ei fod yn beryglus ar adegau mae'n wych i fod yn rhan ohono pan mae'n gweithio.
Cyfunodd dau o ser Cwpan y Byd i greu'r cais olaf a sicrhaodd y fuddugoliaeth: "Roeddwn i'n meddwl bod Scott yn mynd i gicio'r bel i ddechrau, roeddwn i'n gweiddi ato i basio'r bel, death y pas ac roeddwn i'n lwcus iawn i fod yno i'w dderbyn.
Wrth edrych ymlaen i gem Cwpan Heineken nesaf y Scarlets yn erbyn Northampton, Gwener 18fed Tachwedd, dywedodd: "Mae Northampton yn le arbennig i chwarae, rwyf wedi chwarae yno unwaith o'r blaen. Mae yna gefnogaeth arbennig yno, maent yn tim cryf a chorfforol ond mae lot o hyder ymysg ein grwp yn diilyn y perfformiad heddiw."
I archebu'ch lle ar fws y cefnogwyr i Northampton cysylltwch a Natalie ar 0871 871 8088 neu ebostiwch nbunyan@scarlets.co.uk
Fe fydd y Scarlets yn croesawu Dreigiau Casnewydd Gwent i Barc y Scarlets yn y RaboDirect PRO12 ar nos Wener 25ain Tachwedd, cic gyntaf 7.05pm.











