Yn ystod y sesiwn tynnu lluniau, dywedodd Rhys Priestland, "Mae'n fraint fawr i gael ein dewis ar gyfer ymgyrch posteri Diwrnod y Llyfr 2012. Fel chwaraewyr rydyn ni'n treulio llawer o amser yn hyfforddi ar gyfer gêm neu dwrnamaint, ond yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau darllen- naill ai cylchgrawn rygbi, newyddion ar-lein, cysylltu â ffrindiau ar safleoedd gwe cymdeithasol, neu bywgraffiadau."
Cafodd Diwrnod y Llyfr ei ddynodi gan UNESCO fel dathliad byd-eang o lyfrau a darllen, a bellach caiff ei nodi mewn mwy na 100 o wledydd o amgylch y byd. Yng Nghymru, bydd y dathliadau'n dod â miloedd o blant at ei gilydd i nodi'r diwrnod trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau'n ymwneud â darllen, gan ddod â'u hoff lyfrau i'r ysgol neu wisgo fel eu hoff gymeriadau mewn llyfrau. Yn ogystal â dathlu darllen, mae'r diwrnod hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd darllen fel sgìl hanfodol ar gyfer bywyd.
Yn ôl George North, asgellwr y Scarlets, "Rydyn ni wedi cael prynhawn gwych yma ym Mharc y Scarlets, yn tynnu lluniau ar gyfer posteri Diwrnod y Llyfr a fydd, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn cael eu hanfon i bob ysgol a llyfrgell yng Nghymru. Mae darllen yn sgìl pwysig pa waith bynnag mae rhywun yn dewis ei wneud, ond mae e hefyd yn ffordd dda o ymlacio ar ôl diwrnod caled o hyfforddi. Fel chwaraewr rygbi proffesiynol, rwy'n mwynhau darllen cylchgronau rygbi yn ogystal ag adroddiadau o gêmau er mwyn dod i wybod beth sy'n digwydd yn y byd o'n cwmpas. Fy hoff lyfrau yw rhai sy'n cynnwys tipyn o antur, fel yr un rwy'n ei ddarllen ar hyn o bryd - At 61 Degrees - sy'n sôn am gyflawni nodau personol, ac ymdrechu i fod cystal fyth ag y gallwch chi."
Bydd posteri Diwrnod y Llyfr yn cael eu dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru, yn ogystal ag i lyfrgelloedd, siopau llyfrau, carchardai a gweithleoedd.
Meddai Delyth Humphreys, Cydlynydd Diwrnod y Llyfr yng Nghymru, "Rydyn ni wrth ein bodd yn cael Rhys a George o'r Scarlets fel ein selébs ar gyfer posteri Diwrnod y Llyfr. Chwaraeodd y ddau yn wych dros Gymru yn ystod Cwpan y Byd, maen nhw'n chwaraewyr allweddol i'r Scarlets, ac yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc ledled Cymru."
"Mae Diwrnod y Llyfr yn dathlu pwysigrwydd darllen - o lyfrau a chylchgronau i bapurau newydd a'r rhyngrwyd, mae darllen yn sgìl hanfodol sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i ddarllen, ac rydym yn ddiolchgar bod Rhys a George yn arwain y ffordd."











