Cafodd un disgybl Pwyleg syrpreis pan atebodd Josh ei gwestiwn mewn Pwyleg ar ol iddo dreulio amser yng Nglwad Pwyl ar daith hyfforddi Cymru.
Roedd yr ymweliad yn rhan o gynllun peilot sy'n cael ei dreialu gan y Scarlets a Choleg Sir Gar a darparwyr addysg er mwyn hybu llythrennedd yn ysgolion cynradd a ysbrydoli disgyblion ifanc i fwynhau darllen ac ysgrifennu o oed ifanc.
Croesawyd y cynllun gan Bennaeth Ysgol y Felin, Helen Wynne, gan ddweud bod y bartneriaeth rhwng yr ysgolion a'r gymuned leol yn siwr o gael effaith ar "ysbrydolaieth a dyhead" pobl ifanc.
Dywedodd Mrs Wynne: "Mae cael chwaraewyr rygbi adnabyddus yn gwrando ar blant ifanc yn darllen ac yn eu hysbrydoli i gymryd amser yn dysgu a darllen yn holl bwysig ac mae'n swr o gael effaith bositif ar bobl ifanc.
"Mae rhoi cyfle fel hyn i blant ifanc i gwrdd a'u harwyr ac i ddeall bod diddordeb ganddynt mewn darllen yn cael effaith holl mawr. Mae'n gyfle i rannu profiadau a ysbrydoli plant i fod yn fwy creadigol - mae'n dangos hefyd eu bod yn gallu llwyddo trwy chwaraeon a meysydd eraill.
"Fel ysgol gymunedol mae partneriaethau fel hyn gyda'r Scarlets ac awdurdodau lleol yn holl bwysig i annog ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu.
"Fel ysgol gymunedol newydd ry'n ni'n hynod o falch o fod yn rhan o'r bartneriaeth yma a fydd yn cynorthwyo ein athrawon a disgyblion."
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Gweithrediadau'r Scarlets: "Fel rhan o'n rhaglenni cymunedol, ry'n ni am ymestyn ein partneriaeth a chysylltiaau gyda'r sector addysg gan gynnig ein chwaraewyr fel esiamplau da er mwyn annog ac ysbrydoli plant yn Sir Gar.
"Ry'n ni'n cynnal cynllun mapio gyda Ysgol Y FElin ar hyn o brys, fel un o'n partneriaid i gyflwyno i Fwrdd Loteri Cenedlaethol. Fe fydd hwn yn ein cynorthwyo i greu cynllun newydd sy'n gweld rygbi a chwaraewyr rygbi yn gweithio'n agos gyda phlant i annog dysgwyr hyderus ac i wella llythrennedd a sgiliau cymdeithasol."
Yn bresennol hefyd oedd athro Blwyddyn pedwar Kevin Evans, Cydlynydd Masnachol Coleg Sir Gar Paul Evans, Jon Daniels Rheolwr Cyffredinol Gweithrediadau'r Scarlets a Pennaeth Ysgol y Felin Helen Wynne.











