Cafwyd cyfnod o fyfyrdod hefyd ar ddydd Gwener 11eg Tachwed gyda'r gwesteion yn tawelu am 11 y bore i gofio am y milwyr sydd wedi colli eu bywydau tra'n brwydro dros eu gwlad.
Roedd carfan Cwpan Heineken i wynebu Castres yn bresennol a'r deg seren rhyngwladol a fuodd yn y Cwpan Byd i gyfarfod Arweinydd y Cyngor Meryll Gravell, Cadeirydd Ivor Jackson, Cymar y Cadeirydd Mrs Jackson, Mark James, Prif Weithredwr, David Gilbert, Wendy Walters a Roger Jones.
Dywedodd Mark Davies, Prif Weithrwedwr y Scarlets: "Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol ac yn ddiwrnod i gofio wrth ystyried yr aberth y mae'r milwyr wedi gwneud dros y blynyddoedd.
"Mae hwn hefyd yn flwyddyn arbennig i'r Scarlets wrth i galon ac enaid cenedl rygbi ddathlu ein 5,000fed gem ym mis Medi a dathlu ein 100fed gem Ewropeaidd yr wythnos hon.
"Ry'n ni hefyd wedi mwynhau Cwpan Rygbi'r Byd a pherfformaid arbennig ein chwaraewyr.
Ychwanegodd Mark Davies bod cefnogaeth Cyngor Sir Gar i greu stadiwm heb ei ail yn Sir Gar wedi chwarae rol allweddol yn llwyddiant y Scarlets yn y Cwpan Byd.
Dywedodd: "Heb gefnogaeth y Cyngor sydd wedi rhannu yn ein gweledigaeth ac awydd ein chwaraewyr - ni fyddai un ohonom yma yn dathlu'r llwyddiannau yma heddiw.
"Mae'n holl bwysig ein bod ni'n cydnabod rol y Cyngor yn natblygiad y chwaraewyr yma i gyrraedd y nod a chyflawni eu potensial. Mae cred parhaol y Cyngor yn y Scarlets yn cynorthwyo i symud pethau ymlaen ac mae'n fraint cael rhannu'r llwyddiant yma gyda hwy."
Dywedodd Meryl Gravell, Arweinydd Cyngor Sir Gar: "Mae Parc y Scarlets, cartref y Scarlets, yn gyfleuster chwaraeon i ni gyd fod yn browd ohono. Ry'n ni gyd yma heddiw i ddathlu ymdrechion chwaraewyr y Scarlets yn y Cwpan Byd a'n swyddogion oedd yn rhan mor allwedol o greu'r chwaraewyr arbennig yma.
"Hoffwn longyfarch y chwaraewyr hynny a aeth i'r Cwpan Byd. Roedd yn lwyddiant ysgubol ar ac oddi ar y cae, gan gymryd rhan mewn ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau eraill ar lwyfan rhyngwladol. Ry'n ni'n browd ohono chi am fod yn lysgenhadon arbennig i ni yn Seland Newydd.
"Ry'n ni yma i ddathlu'r dynion ifanc yma ac i ddiolch i chi ar ran Sir Gar, ond hefyd i longyfarch carfan y Scarlets yn ei chyfanrwydd. Mae'r hyn yr y'ch chi'n adeialdu yma yn arbennig, ry'n ni gyd yn ymwybodol eich bod wedi gweithio'n galed iawn dros y tair mlynedd diwethaf ac mae'r gwaith hwnnw'n talu ar ei ganfed erbyn hyn."
Aeth arweinydd y Cyngor ymlaen i ddweud bod chwaraewyr y Scarlets a gystadlodd yn Cwpan Rygbi'r Byd wedi bod yn esiampl ysbrydoledig i bobl ifanc Gorllewin Cymru. Gyda chwaraewyr fel Jon Davies, Rhys Priestland, Scott Williams, Stephen Jones a Ken Owens i gyd yn dod o Sir Gar dywedodd y Cynghorydd Gravel lei fod yn destun balchder i bawb i'w gweld ar y llwyfan rhyngwladol.
Ychwanegodd: "Fe allwch chi fod yn lysgenhadon arbennig i bobl ifanc ein rhanbarth; ry'n ni'n ymwybodol iawn bod gennym broblemau gyda alcohol a chyffuriau ond fe allwch chi ddangos i'r bobl yma beth sy'n bosib trwy fyw yn iach, gweithio fel tim a chyrraedd eich potensial.
"Ry'n ni'n edrych ymlaen i'ch gweld chi gyd yn ein ysgolion, yn siarad a'r plant ifanc ac yn eu cynorthwyo i ddeall yr hyn sy'n bosib wrth edrych ar ol eu hunain."
Talwyd teyrnged hefyd i un o fawrion y byd rygbi sydd hefyd yn hanu o Sir Gar, Stephen Jones. Yn ystod twrnament Cwpan Rygbi'r Byd fe dorodd Jones y record am y chwaraewr a'r nifer mwyaf o gapiau dros Gymru (104) ef hefyd yw'r chwaraewr sydd a'r pwyntiau uchaf i'r Scarlets (2,781), mae wedi chwarae 298 gem i'r Scarlets.
Dywedodd Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor: "Ry'n ni'n gwylio'r Scarlets o wythnos i wythnos ac yn mwynhau gwneud oherwydd mae gymaint o gymeriad, hanes, ysbryd ac egni yn perthyn i'r clwb a'r rhanbarth.
"Mae hwn yn gyfleuster arbennig ac mae'n fraint cael gwylio gemau yma a gweld y ffordd y mae'r bois yma'n chwarae rygbi. Hoffwn longyfarch holl chwaraewyr y Scarlets sydd wedi parhau i weithio'n galed yma yn ystod Cwpan y Byd am eu hymdrech a'u hymrwymiad nhw.
"Mae'n hanfodol bwysig bod y Scarlets yn parhau i fod yn llwyddiannus. Maent yn rhan mawr o adfywiad ein sir ac maent yn gallu cyfrannu at ddatblygiad economaidd a thwristiaeth yr ardal.
"Fe fydd Cyngor Sir Gar yn parhau i weithio gyda rheolwyr Parc y Scarlets er mwyn sicrhau dyfodol y lle."











