Mae'n gem anodd arall i'r Scarlets ond fe fydd y tim gan gynnwys y chwaraewyr a daniodd ar lwyfan Cwpan y Byd yn llawn hyder ac yn awyddus iawn i wynebu'r her, fe fydd digon o momentwm gyda'r tim hefyd ar ol sicrhau chwech buddugoliaeth o'r bron yn y chwech gem diwethaf.
Mae un o'r Scarlets yn deall yn well na neb yr awyrgylch a'r dorf y bydd yn wynebu'r Scarlets, Sean Lamont oedd gynt yn nhim Northampton, ac fe welwyd digon o dalent ar y cae yn Limerick wythnos diwethaf; fe fydd yr asgellwr rhyngwladol Chris Ashton yn siwr o ddangos ei ddoniau hefyd.
Fe fydd y gem yn llawn egni gyda'r Scarlets yn gobeithio ail greu rhai o nodweddion gem penwythnos diwethaf ac adeiladu ar y sylfaen ymysg y blaenwyr. Does dim dwywaith y bydd digon o sbarc ymysg y cefnwyr gyda chwaraewyr Cwpan y Byd yn disgleirio - Rhys Priestland, Jon Davies, Scott Williams, George North a Sean Lamont.
Enillodd George North dlws Seren y gem Heineken penwythnos diwethaf wrth i'r Scarlets ddathlu eu 100fed ymddangosiad yn y Cwpan Heineken gyda buddugoliaeth o 31-23 yn rownd 1 yn erbyn Castres, gyda Jon Davies a Sean Lamont ar y sgorfwrdd hefyd.
Nid yw Pennaeth Rygbi'r Scarlets Nigel Davies wedi newid rhyw lawer o dim buddugol penwythnos nesaf. Fe fydd capten Chwe Gwlad Cymru a'r Scarlets Matthew Rees yn dechrau yn safle'r bachwr gyda'r propiau profiadol Rhys Thomas a Iestyn Thomas (53 ymddangosiad Ewropeaidd) yn ei gynorthwyo yn y reng flaen.
Mae'r reng ol cryf yn ddi-niwed gyda Aaron Shingler, Johnathan Edwards a Ben Morgan yn cyfuno i gryfhau'r sgrym ynghyd a Sione Timani a Damian Welch yn yr ail reng.
Rhys Priestland sydd wedi ei enwi yn safle'r maswr gyda'r profiadol Stephen Jones ar y fainc i gynnig hwb yn hwyrach yn y gem. Mae'r mewnwr ifanc Gareth Davies, sydd wedi dangos doniau gwych yn ddiweddar, yn dechrau yn safle'r mewnwr gyda Mat Gilbert yn cael ei enwi ar y fainc yn dilyn perfformiadau da i Glwb Rygbi Llanelli a'r Scarlets yn ystod Cwpan LV=.
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets: "Roedd yr ymdrech a'r ymrwymiad gan y chwaraewyr i gyd yn amlwg i bawb penwythnos diwethaf ac fe fydd yn rhaid i ni fod yn hyderus, deall sut i addasu ein gem a chael cred yn ein gallu i wynebu'r her y penwythnos hon.
"Ry'n ni wedi llwyddo i greu momentwm yn y chwech gem diwethaf ac mae'r chwaraewyr wedi dangos gwir awydd i chwarae am y crys ac fe fydd yn rhaid gweld mwy o hyn ym mherfformiad nos Wener."
Wrth son am gem diwethaf Northampton dywedodd Davies: "Roedd yn gem arbennig o rygbi penwythnos diwethaf - roedd y ddau dim yn gystadleuol iawn gyda Northamtpon yn anffodus i golli'n y pendraw.
"Mae'r grwp yn un anodd ond dyna sy'n tanio'r chwaraewyr a dyna sy'n ein herio ni fel hyfforddwyr a'r chwaraewyr. Mae'n rhaid i ni barchu safon Northampton ac fe fydd y chwarae ymysg y blaenwyr yn allweddol.
"Roeddwn i'n bles gyda chanlyniad dydd Sadwrn - mae Castres yn dim corfforol da. Mae'n rhaid i ni godi'r safon unwaith eto dros y penwythnos ac fe fydd pwysau ar y bois mewn nifer o ardaloedd.
"Fe fydd yn rhaid i ni ymateb yn dda ar y cae hefyd ac addasu i sefyllfaoedd gwahanol. Mae'r bois yn ymwybodol iawn o'r hyn syd o'u blaenau."
Mae Hyfforddwr Sgiliau'r Scarlets, Mark Jones, wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r cefnwyr. Dywedodd: "Mae twrnament fel Cwpan y Byd yn cynnig profiadau i chwaraewyr - mae'n gwneud yn siwr bod bois yn ffocysu eu meddyliau sy'n arwain at berfformiadau da ac maent wedi dod yn ol yn llawn ysbryd.
"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen o fan hyn nawr. Chwaraeodd Sean (Lamont), George, (North) a Liam (Williams) yn dda wythnos diwethaf ac ry'n ni'n gobeithio gweld y chwaraewyr yma yn dod at ei gilydd fel uned - mae chwaraewyr fel hyn yn bwysig iawn mewn gemau mawr fel hyn."
Tim y Scarlets i wynebu Seintiau Northampton, 18fed Tachwedd 2011, cic gyntaf 8pm yng Ngerddi Franklin's: 15 Liam Williams, 14 George North, 13 Scott Williams, 12 Jon Davies, 11 Sean Lamont, 10 Rhys Priestland, 9 Gareth Davies, 1 Iestyn Thomas, 2 Matthew Rees (capt), 3 Rhys Thomas, 4 Sione Timani, 5 Damian Welch 6 Aaron Shingler, 7 Johnathan Edwards, 8 Ben Morgan.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Phil John, 18 Rhodri Jones, 19 Lou Reed, 20 Matt Gilbert, 21 Rhodri Williams, 22 Stephen Jones, 23 Daniel Evans.
Mae'r canlynol yn absennol oherwydd anafiadau: Dominic day (coes), Rob McCusker (troed) a Keiran Murphy (coes).
Nid yw Tavis Knoyle wedi ei ddewis ar gyfer y gem yn dilyn absenoldeb o sesiynau hyfforddi yn dilyn salwch yn gynharach yn yr wythnos.
Fe fydd Richie Pugh, sydd yn aelod o garfan Saith bob ochr Cymru, yn teithio i Awstralia ar gyfer Taith HSBC Saith bob ochr y Byd.











