Gwnewch yn siwr eich bod chi yn y stadiwm yn gynnar nos Wener nesaf (25ain tachwedd) i weld Only Men Aloud yn perfformio cyn i'r Scarlets ddod i'r ca ear gyfer y gem fawr.
Mae'r bois yn gobeithio adlewyrchu llwyddiant eu taith Nadolig yn 2010 gyda diweddglo arbennig y llynedd o ymddangosiad ar y teledu ar ddydd Nadolig fel gwestai arbennig ar y Strictly Christmas Special. Perfformiodd y cor ar daith yn ystod yr haf ym mhob cwr o Gymru.
Fe fydd y Daith Nadolig, a fydd yn dechrau yn Aberystwyth ac Abertawe, yn gweld y cor yn canu amrywiaeth o ganeuon o'u tri albwm blaenorol a chaneuon newydd.
Dywedodd Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddorol Only Men Aloud: "Ry'n ni'n methu aros i'r gaeaf i ni ddiddanu ein cefnogwyr cyn y Nadolig. Ry'n ni wedi mwynhau pedair taith cenedlaethol yn ystod y dair mlynedd diwethaf, a dyna'n union yr y'n ni'n caru ei wneud. Fe fyddwn ni'n perfformio lot o ganeuon yr albwm ar y daith."
Cliciwch ar y lincs canlynol i archebu'r albwm:
Scarlets v Dreigiau Casnewydd Gwent, Gwener 25ain Tachwedd CG7.05pm, Parc y Scarlets gyda Only Men Aloud yn westeion arbennig.











