Dyweodd: "Mae gyda ni gefnogaeth arbennig ac mae wastad yn bosib i glywed ein cefnogwyr ym mhob maes. Roedd yn bosib clywed caneuon y Scarlets a Chymru yn y stadiwm - mae hyn wastad yn rhoi hwb i'r chwaraewyr.
"Does dim gwell i gael na cherdded i mewn i'r stadiwm cyn gem fawr a chlywed cefnogaeth fel hyn. Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r bois. Ry'n ni'n gobeithio eu bod nhw wedi mwynhau'r dathlu ar ol hynny! " dywedodd y maswr ifanc wrth wenu.
Roedd chwaraewyr y Scarlets yn brysur yn trydar y miloedd o gefnogwyr ar y daith adref nos Wener gan ddiolch i'r cefnogwyr am eu hymrwymiad i'r fuddugoliaeth hefyd.
Aeth Nigel Davies ymlaen i ddweud bod ymrwymiad y cefnogwyr wedi tanio'r achlysur.
Dywedodd: "Ry'n ni'n ffodus iawn i gael rhai o gefnogwyr mwyaf teyrngar ac egniol rygbi ac maent yn gwneud yn siwr fod pawb yn eu clywed lle bynnag mae nhw. Rwy'n cofio'r un angerdd yn ein buddugoliaeth yn erbyn Gwyddelod Llundain dwy dymor yn ol.
"Roedd y gefnogaeth yng Ngerddi Franklin dros y penwythnos yn anhygoel ac fe chwaraeodd bob un o'r cannoed a wnaeth y daith eu rhan hwy yn y fuddugoliaeth. Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i bob un person a deithiodd i'n cefnogi ac ry'n ni'n awyddus iawn eu bod nhw'n deall ein gwerthfawrogiad."
Dywedodd Rhys Priestland bod gwaith y blaenwyr wedi bod yn holl bwysig mewn gem mor gorfforol ac fe dalood teyrnged i ymdrech y pac.
Dywedodd: "Nid oedd llawer o ffydd gan bobl yn ein gallu i ennill y gem, mae ein blaenwyr yn haeddu rhan helaeth o'r clod; roedd yn her enfawr iddynt ac fe wnaeth y blaenwyr yn dda iawn.
"Efallai ein bod ni wedi gwneud y mwyaf o'r lwc a ddaeth i'n cyfarfod ond roedd y gwaith amddiffynol yn wych. Roedd ychydig yn siomedig i adael y cais olaf i mewn gyda hwy'n dwyn pwynt bonws - efallai y bydd hwn yn bwysig yn hwyrach yn y gystadleuaeth - ond ar y cyfan ry'n ni'n hapus iawn a'r pump pwynt."
Ychwanegodd Priestland bod yr ymdeimlad o berthyn i'r tim sy'n bodoli ym Mharc y Scarlets yn ffactor hallweddol bwysig.
"Dyma'r tro cyntaf i mi ddechrau yn safle'r maswr yn Ewrop gyda Stephen yn holl iach felly roedd pwysau arna i - ond mae Steve wedi bod yn gret trwy'r wythnos. Mae'n cyfrannu yn ein cyfarfodydd, mae e wedi bod yn help mawr i mi wrth baratoi.
"Mae hefyd yn beth mawr i wybod fod chwaraewr o'i brofiad a'i ddawn ef ar y fainc yn barod i ddod ymlaen. Mae hyder ymysg y garfan nawr ac ry'n ni'n gyfforddus a'r ffordd ry'n ni'n chwarae.
"Mae egni da ym Mharc y Scarlets ac mae'n bleser i ddod i hyfforddi yn ddyddiol ar hyn o bryd."
Wrth son am ei ddatblygiad personol aeth ymlaen i ddweud bod y gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn gan y rhanbarth dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn agwedd bwysig.
"Mae'r gefnogaeth yr wyf wedi ei dderbyn gan chwaraewyr a hyfforddwyr y Scarlets yn helpu i rhoi hyder i mi. Mae syniadaeth Nigel Davies o barhau i chwarae gyda'n pennau'n uchel wedi talu ar ei ganfed ac mae Cymru erbyn hyn yn dilyn yr un patrwm."
Dywedodd Priestland ei fod yn gobeithio mai anaf ysgafn oedd wedi ei dderbyn i'w ysgwydd.
"Mae'n teimlo'n iawn ar hyn o bryd. Rwy'n mwynahu fy rygbi ar hyn o bryd, rwy'n gorfod atgoffa fy hunan o dro i dro fy mod yn gwneud mor dda.
"Roedd pawb yn barod am y gem yma, nid oedd yr adroddiadau negyddol wedi ein effeithio ni fel chwaraewyr ac mae'n gret ein bod ni wedi ennill saith gem o'r bron erbyn hyn."
Fe fydd y Scarlets yn wynebu Dreigiau Casnewydd Gwent ym Mharc y Scarlets NOS WENER YMA yng nghystadleuaeth RaboDirect PRO12 - cic gyntaf 7.05pm.











