Yn dilyn dechrau arbennig yn y Cwpan Heineken gyda'r Scarlets yn eistedd ar frig y grwp, fe fydd y rhanbarth yn dychwelyd i ymgyrch RaboDirect PRO12 ac yn gobeithio symud yn agosach i frig tabl y gynghrair.
Yn ogystal a chyfle i gefnogi'r chwaraewyr h?n a mwy profiadol yn y garfan, fe fydd y gem yn gyfle i'r cefnogwyr weld nifer o dalent ifanc y Scarlets ar y cae. Mae'r garfan yn adeiladu carfan gref gyda dyfnder yn amlwg i'w weld. Mae'r esiampl o fuddsoddi mewn talent newydd i'w weld o'r gem diwethaf gyda Mat Gilbert yn sgori cais ar ei gem Ewropeaidd cyntaf yn erbyn Northampton.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae'n hwb anferth i'r rhanbarth a'r cefnogwyr i gael chwaraewr o brofiad Stephen Jones yn y grwp wrth i ni baratoi ar gyfer y gem fawr yma. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau a'r momentwm er mwyn cadw ymysg y timau sydd ar frig tabl y gynghrair.
"Ry'n ni gyd yn ymwybodol iawn o allu a dawn Steve a'r hyn y mae'n ei gynnig tra'n gwisgo crys y Scarlets - mae ei ymrwymiad a chyfrifoldeb i'r clwb yn anhygoel ac mae ei gefnogwyr a'i gyd-chwaraewyr yn llawn gwerthfawrogi ei waith.
"Mae wedi datgan yn glir nad yw'r barod i ymddeol o rygbi rhyngwladol ac mae ei ymrwymiad a mewnbwn i'w rhanbarth a gwaith datblygu chwaraewyr ifanc yn amlwg i'w weld - mae'n dal i fwynhau ei rygbi ac ry'n ni'n falch ei fod ar gael i ni nos Wener yn dilyn buddugoliaeth wythnos diwethaf."
Dywedodd Alan Evans, ysgrifenydd y Barbariaid: "Cynhaliwyd sgrysiau positif iawn gyda staff hyfforddi'r Scarlets. Maent yn llawn gwerthfawrogi'r anrhydedd y byddai wedi bod i gael Stephen yn rhan o'r tim ond yn anffodus oherwydd ymrwymiad i gem y rhanbarth ni fydd ar gael."
Dywedodd Stephen Jones: "Ry'n ni wedi adeiladu momentwm arbennig yma yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae'n holl bwysig i ni barhau a hyn yn y gem ddarbi fawr nos Wener. Mae gyda ni lot o barch at ein gwrthwynebwyr ac mae'n mynd i fod yn gem fawr, rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o gystadleuaeth fawr fel hon."
Fe fydd y Scarlets yn colli nifer o chwaraewyr i garfan Cymru cyn y gem yn erbyn Awstralia ar ddechrau mis Rhagfyr.
Ymysg y chwaraewyr sydd wedi eu galw i'r garfan genedlaethol y mae Matthew Rees, Rhys Priestland, Jon Davies, Scott Williams, George North, Tavis Knoyle a'r cefnwr talentog Liam Williams sy'n gobeithio ennill ei gap rhynwgladol cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm yn dilyn perfformiadau dewr a dawnus yng nghrys y Scarlets y tymor hwn.
Mae Williams yn esiampl arall o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn rhanbarth y Scarlets i ddatblygu talent lleol ifanc.
Mae'r cefnwr ac asgellwr ifanc, Liam Williams, 20 a anwyd yn Abertawe, wedi chwarae 10 gem i'r Scarlets y tymor hwn ac wedi sgori pedwar cais yn erbyn Treviso, Teigrod Caerlyr, Ulster a chais ar ol tair munud yn erbyn Seintiau Northampton. Roedd yn aelod o garfan Clwb Rygbi Llanelli yn ystod y tymor diwethaf ac yn aelod o garfan Cymru dan 20 yn 2010/11.
Carfan Cymru i wynebu Awstralia:
CEFNWYR:Dan Biggar, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny, Tavis Knoyle, George North, Rhys Priestland, Jamie Roberts, Liam Williams, Lloyd Williams, Scott Williams, Shane Williams
BLAENWYR:Scott Andrews, Huw Bennett, Ryan Bevington, Lloyd Burns, Luke Charteris, Bradley Davies, Ian Evans, Lewis Evans, Toby Faletau, Gethin Jenkins, Adam Jones, Ryan Jones, Danny Lydiate, Matthew Rees, Justin Tipuric, Sam Warburton (Capten)











