Mae Parc y Scarlets yn disgwyl croesawu 2,000 o gefnogwyr Munster i galon ac enaid cenedl rygbi wrth i'r Gwyddelod obeithio goddiweddid y Scarlets yn y grwp.
Ry'n ni angen eich cefnogaeth chi ar gyfer trydydd rownd Cwpan Heineken wrth i ni groesawu mawrion Munster. Cefnogwch y bois a helpwch n ii lenwi Parc y Scarlets a sicrhau torf mwyaf y tymor hyd yn hyn gan roi croeso Cymreig go iawn i gefnogwyr Munster!
Mae'n addo bod yn brynhawn arbennig i'r teulu oll gyda drysau Pentref Cefnogwyr Daioni yn agor am 12.30pm.
Fe fydd amrywiaeth arebnnig o gerddoriaeth byw yn ogystal a'ch holl ffefrynau gan gynnwys gwyl TAG, bwyd a diod a llawer mwy.
Mae tocynnau ar gael o'r Swyddfa docynnau, ffoniwch 0871 871 8088, prynwch ar y we www.scarlets.co.ukneu cysylltwch a Kate Jenkins ar 01554 783927 / kate@scarlets.co.ukam ostyngiadau grwp.
Mae croeso i'n holl grwpiau rhanbarthol wrth i ni ddathlu cefnogaeth gorllewin y rhanbarth ar ddiwrnod Sir Benfro a Cheredigion.
Scarlets v Munster, holl antur Cwpan Heineken ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 10fed Rhagfyr, cic gyntaf 3.40pm











