Denodd yr asgellwr ifanc sylw'r Scarlets yn ystod Cwpan Churchill dros yr haf, ac mae'r chwaraewr 22 mlwydd oed wedi ennill enw da yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd am ei gyflymder a'i ystwythder.
Dywed nifer ei fod yn debyg iawn i'r asgellwr talentog Cymreig Shane Williams, mae'r asgellwr 5' 8" wedi ei ddisgrifio gan ei hyfforddwyr yn Tonga fel un o'r cefnwyr mwyaf talentog a mwyaf cyflym i ddod o'u gwaith rhyngwladol mewn degawd o mwy.
Mae'r cefnwr 22 mlwydd oed wedi chwarae yn safle'r cefnwr yn ogystal ag ar yr asgell a chyfnod yn safle 13 hefyd. Mae gan Iongi naw cap - death ei driawd mwyaf diweddar yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Seland Newydd, Canada a Ffrainc ac roedd yn yr un tim a Sione Timani.
Dywedodd Viliame Iongi - neu 'Pila' i'w ffrindiau - ei fod yn edrych ymlaen i chwarae a fod yn rhan o glwb a chymuned rygbi fel y Scarlets.
Dywedodd: "Rwyf am wneud fy ngorau yng gnhrys y Scarlets, rwy'n falch iawn i fod yma ac mae'n dda cael bod yn rhan o sefydliad mor broffesiynol. Mae'r cyfleusterau yma yn anhygoel ac rwyf yn awyddus iawn i wneud y mwyaf o'r cyfle."
Fe welodd Nigel Davies ei sgiliau a'i allu yn ystod Cwpan Churchill lle sgoriodd bump cais yn erbyn yr Unol Daleithiau nol ym mis Mehefin.
Dywedodd Davies: "Mae'n chwaraewr dawnus ac fe fydd ei ffordd o chwarae yn siwr o weddu yn dda i steil y Scarlets. Fe fydd yn cynnig opsiynau newydd i ni. Mae wedi bod yn llawn egni yn y sesiynau hyfforddi ac ry'n ni wedi ei gynnwys ar y fainc i roi opsiwn gwahanol i nia r gyfer y gem nos Wener."
Ychwanegodd Nigel Davies: "Ry'n ni'n borwd iawn o fuddsoddiad y rhanbarth mewn datblygu chwaraewyr talentog lleol.
"Mae'n rhaid i ni gynllunio'n ofalus fodd bynnag wrth edrych ar y ffordd mae ein chwaraewyr ifanc yn datblygu ac yn ennill capiau rhynwgladol. Fe fydd nifer o chwaraewyr yn absennol oherwydd dyletswyddau rhyngwladol ar adegau pwysig yn ystod y tymor.
"Ry'n ni'n hynod o falch o groesawu Viliame i Barc y Scarlets. Ynghyd a Sione Timani ry'n ni wedi llwyddo i arwyddo chwaraewyr a fydd yn cael effaith ar ein gem."
Mae Viliame wedi chwarae i dim Tonga dan 20 a thim Academi'r Brumbies yn Canberra. Mae ei fam o Fiji a'i dad o Tonga.











