Cafodd un o arwyr y Scarlets Stephen Jones groeso mawr gan y dorf wrth iddo arwain y tim i'r ca ear ei 300fed gem i'r clwb a'r rhanbarth ac roedd yn llawn haeddianol o'r fuddugoliaeth ar noson mor arbennig.
Dywedodd Nigel Davies, Pennaeth Rygbi'r Scarlets: "Rwy'n hapus iawn gyda'r canlyniad. Roeddwn i'n poeni i ryw raddau os oedden ni yn y feddyliol barod am y frwydr yn dilyn dwy fuddugoliaeth gref.
"Roedd yn frwydr go iawn ar y cae ac roedd ardal y dacl yn ffyrnig ond fe lwyddodd y blaenwyr i osod y sylfeini fel yr oedden ni wedi gofyn iddyn nhw wneud. Mae'r bois yn chwarae gyda lot o hyder, nid oedd yn gem arbennig ond weithiau mae cael y canlyniad yn bwysicach na'r perfformiad. Ry'n ni'n ymwybodol iawn ein bod ni'n gallu chwarae rygbi yr un mor dda ag unrhyw dim arall yn Ewrop.
"Mae Ulster o'n Blaenau ni penwythnos nesaf ac fe fydd hwn yn gem fawr arall i ni. Ry'n ni'n gwneud y mwyaf o'r momentwm ar hyn o bryd ac ry'n ni'n awyddus iawn i ddiogelu'r momentwm. Nid yw Ravenhill yn le rhwydd i fynd iddo ond ry'n ni wedi bod yn gystadleuol yno yn y gorffennol.
Ychwanegodd Nigel Davies bod y dyfnder yn y garfan yn dechrau talu ar ei ganfed gyda nifer o chwaraewyr ifanc yn dangos eu sgiliau ar y cae. "Mae'r bois ifanc yma'n gwneud gwaith da iawn i ni. Fe welon ni gwaith arbennig gan Adam Warren, Gareth Maule, Stephen Jones a Dan Evans.
Aeth Davies ymlaen i longyfarch Liam Williams ar gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru a dywedodd bod cyfle i bob chwaraewr ifanc sy'n datblygu trwy'r system. "Mae'r holl beth wedi digwydd yn gyflym iawn i Liam.
"Rwyf wastad wedi dweud wrth y bois yn fan hyn y daw cyfleoedd rhyngwladol dim ond iddyn nhw gael cyfle i chwarae ar lefel rhanabrthol. Fe wnaeth yn arbennig o dda yn erbyn Northampton ac fe ddangosodd ei allu ac mae'n llawn haeddu'r cyfle. Mae ganddo lot i'w ddysgu o hyd ond ame'n foi sefydlog iawn ac fe ddaw'r sglein gyda phrofiad.
"Ry'n ni wedi wynebu tair neu bedair blynedd anodd ond mae pethau'n dechrau dod ynghyd erbyn hyn. Mae'n gyfnod cyffrous iawn i bawb sydd ynghlwm a'r Scarlets ar hyn o bryd."
Aeth clod mwya'r noson i un o arwyr y Scarlets Stephen Jones a chwaraeoedd ei 300fed gem i'r clwb a'r rhanbarth. Dywedodd Davies: "Roedd Steve yn wych. Mae wedi chwarae yma mor hir, ac mae cyrraedd 300 o gemau yn arbennig.
"Roedd yn amlwg yn siomedig i beidio a chwarae i'r Baa-Baas ond roedd e'n awyddus iawn i fod yn rhan o'r frwydr yn erbyn y Dreigiau. Roedd yn gwybod yn iawn ei fod yn siwr o fod yn gem anodd ac roedd yn allweddol bwysig i ni gael chwaraewr o brofiad Steve ar y cae.
"Ef oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dim yn y pendraw. Roedd yn gorfforol iawn ac fe arweiniodd y gem."
Aeth blaenasgellwr y Scarlets Johnathan Edwards ymlaen i ddweud bod y blaenwyr yn awyddus iawn i ddangos eu gallu yn erbyn y Dreigiau er dwy fuddugolaieth gref yn y Cwpan Heineken. "Mae unrhyw dim sy'n chwarae'r Dreigiau yn ymwybodol eu bod nhw'n gryf ymysg y blaenwyr. Mae nifer o bobl wedi cwestiynu'n gallu ni fel pac ac roedd bob un ohonom yn awyddus i ddangos eu bod ni'n gallu cystaddlu heno.
"Ry'n ni'n dilyn gemau mawr yn y Cwpan Heineken ac roedd yn rhaid i ni ennill y gem yma. Nid oedd yn gem deniadol ond ry'n ni wedi llwyddo i wneud beth oedd angen.
"Mae ardal y dacl yn frwydr personol i ni nawr. Roedd yn brawf da i ni yn erbyn y Dreigiau ac roedd sicrhau'r canlyniad yn bwysig."
Aeth Edwards ymlaen i ddweud nad oedd absenoldeb y chwaraewyr rhyngwladol wedi cael effaith dirdynol ar y garfan gyda chynifer o chwaraewyr ifanc yn dangos eu doniau ac yn cystadlu am y crys.
"Mae'r chwaraewyr ifanc yn mwy na pharod ac yn ddigon dawnus i lenwir' bylchau. Mae'n deyrnged i'r staff hyfforddi sydd wedi gweithio mor galed i ddatblygu'r bois ifanc yma. Mae sefyllfaoedd, fel y Cwpan Byd, yn gyfle i'r chwaraewyr ifanc yma ddangos eu gallu ac maent yn cystadlu'n dda.
"Ry'n ni nawr yn barod i ffocysu ar Ulster. Nid yw Ravenhill yn le rhwydd i fynd iddo ac ry'n ni'n edrych ymlaen i'r her. Ry'n ni'n gwybod fel grwp ein bod ni'n gallu cyflawni'r canlyniadau; mae'n rhaid i ni sicrhau'r perfformiad ar y cae."
Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ogledd Iwerddon nos Wener i wynebu Ulster, 2il Rhagfyr cic gyntaf 7.05pm cyn dychwelyd i Barc y Scarlets ar gyfer y gem gyntaf o ddwy yn erbyn Munster yn y Cwpan Heineken.











