Fe fydd y twrnament 12 chwaraewr yn dechrau am 7pm ar y nos Sadwrn gyda rowndiau ail gyfle yn cael eu chwarae o flaen torf angerddol gorllewin Cymru.
Fe fydd Webster, eilydd Pencampwriaeth y Byd y llynedd a chwaraewr darts gorau Cymru, ac fe fydd yn wynebu Phil Taylor a chwaraewr rhif 3 y byd James Wade.
Fe fydd Whitlock a Nicholson o Awstralia yn wynebu yr Albanwyr Robert Thornton a John Henderson, gyda'r enillwyr yn wynebu Co Stompe a Vincent Van De Voort yn y rownd nesaf. Yn ymuno a Andy Fordham a Richie Burnett y bydd rai o ser y Scarlets.
Yn dyfarnu'r noson y bydd George Noble, gyda John Gwynne ar y meic a Miss Erica Wild yn arwain y chwaraewyr i'r llwyfan.
Chwaraewyr Pencampwriaeth Darts y Scarlets:
- Phil 'The Power' Taylor
- James Wade
- Mark Webster
- Barry Bates
- Simon Whitlock
- Paul Nicholson,
- Vincent van der Voort
- Co Stompe
- Robert Thornton
- John Henderson
Fe fydd y noson yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Delme Thomas, Parc y Scarlets ar nos Sadwrn 21ain Ionawr, drysau'n agor am 6pm.
Mae pris y tocynnau yn ddibynnol ar eich lleoliad i'r llwyfan:
Aur £20 y pen
Arian £15 y pen
Pecynnau lletygarwch o £40 y pen a taw. Cysylltwch a Julie ar 01554 783940 neu juliedavid@scarlets.co.uk am wybodaeth pellach neu i archebu'ch lle.
Mae'r tocynnau ar werth o Swyddfa docynnau'r Scarlets. Ffoniwch ar 0871 871 8088, prynwch ar y we neu casglwch o'r Swyddfa docynnau.











