Yn siarad ar rhan y rhanbarth, dywedodd Rupert Moon: "Mae hwn yn drist iawn i bawb sy'n mwynhau pel-droed ac mae'r byd chwaraeon yn un wrth fynegi eu tristwch yn dilyn marwolaeth dyn hyfryd, a llysgennad arbennig i chwaraeon yng Nghymru, pel-droediwr o fri a hyfforddwr ysbrydoledig.
"Fe fydd y gymuned chwaraeon yng Nghymru yn gweld ei eisiau yn enwedig y grwp o chwaraewyr yng ngharfan Cymru y mae ef wedi ysbrydoli i berfformiadau mor egniol. Fe ddylai pawb gymryd ysbrydolaieth o'i gred, ymrwymiad a mwynhad ym mherfformiadau'r tim.
"Roedd yn anrhydedd i mi ei adnabod fel cydweithiwr rhyngwladol gyda'n gyrfaoedd rhyngwladol yn digwydd law yn llaw - roedd yna berthynas da rhwng chwaraewyr pel-droed a rygbi oedd yn cynrychioli eu gwlad. Roedd Gary yn ddyn da gyda gwen ar ei wyneb - roedd yn un o'r goreuon - yn wr bonheddig.
" Ry'n ni gyd yn cymdymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau."











