Am £9 yn unig fe allwch chi deithio i Rodney Parade ar nos Wener 30ain Rhagfyr ar gyfer y gem ddarbi fawr Nadoligaidd yn erbyn Dreigiau Casnewydd Gwent.
Fe fydd y bws yn casglu fel a ganlyn:
15:45 Caerfyrddin
16:00 Cross Hands
16:30 Parc y Scarlets
Fe fyddwn ni'n hapus i gasglu cefnogwyr yng ngwasanaethau Gorllewin Caerdydd os fyddwch wedi archebu a thalu am eich lle o flaen llaw. Fe fydd y bws yn cyrraedd Rodney Parade tua 17.30.
Fe fydd y bws yn gadael Rodney Parade 45 munud ar ol y chwiban olaf.
Fe fydd yn rhaid i chi archebu eich tocyn cyn teithio, cysylltwch a Natalie ar 0871 871 8088 neu ebostiwch nbunyan@scarlets.co.uk











