Mae'r calendr yn anrheg hanfodol ar gyfer y Nadolig, sydd yn gweld nifer o ser y Scarlets yn cefnogi eu cyd-chwaraewr Iestyn Thomas ar ei flwyddyn dysteb.
£9.99 yn unig yw'r calendr ac ma ear gael o siop y Scarlets a thrwy'r wefan www.scarlets.co.uk.
Yn dilyn gyrfa llewyrchus gyda'r rhanbarth mae Iestyn Thomas wedi cael cynnig blwyddyn dysteb i ddathlu ei lwyddiannau. Trwy gydol ei yrfa gyda'r rhanbarth o ddeng mlynedd gyda'r Scarlets mae wedi chwarae mwy na 200 o gemau, 53 gem Ewropeaidd yn ogystal a 33 gem dros Gymru. Mae wedi ennill nifer o wobrau ddros y blynyddoedd ac yn fwyaf diweddar cafodd ei gynnwys yn 'Dream Team' Cynghrair Magners yn nhymor 2010/11.
Fe fydd elw'r calendr yn mynd at elusennau dewisol Iestyn, Tenovus, The Multiple Sclerosis Centre a Parasol.
Dywedodd Iestyn Thomas: "Mae'n dangos nad yw'r bois yn meddwl gormod am eu hunain - bach o hwyl yw e i fod ac ry'n ni wedi cael ymateb gret hyd yn hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r bois ma gefnogi'r flwyddyn dysteb ac am gymryd rhan yn y calendar - roedd e'n lot o hwyl i'w greu. Y prif fwriad yw i gasglu lot o arian i elusennau. Mae'r calendar yn anrheg perffaith i unrhyw gefnogwr o'r Scarlets!"
Am wybodaeth pellach neu i brynu'r calendar cliciwch yma











