Mae Williams yn dilyn yn ol troed maswr y Scarlets a Chymru Rhys Priestland a chwaraeodd ei gem gyntaf i "Help for Heroes" yn 2008.
Yn ymuno a Williams y bydd y prop Peter Edwards, 31, sydd yn ei ail dymor gyda'r rhanbarth ac sydd yn dychwelyd i'w lawn ffitrwydd ar ol torri ei fraich y llynedd. Ganwyd Edwards yn Shrewsbury ac mae hefyd yn chwarae i Glwb Rygbi Llanymddyfri.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, sydd wedi rhyddhau'r chwaraewyr ar gyfer y gem: "Yn gyntaf ry'n ni'n falch iawn o gefnogi'r gem yma sydd yn cefnogi achos pwysig iawn. Fe fydd y ddau chwaraewr yn siwr o gael profiad arbennig o ganlyniad i fod yn rhan o'r garfan a chwarae gyda rhai o'r chwaraewyr a ymddangosodd yn y Cwpan Byd.
"Fe fydd yn gyfle arbennig iddyn nhw gymryd cam arall yn eu datblygiad a phrofiad fel chwaraewyr rygbi."
Yn gyfrifol am dim Hemisffer y Gogledd y mae'r cyn Scarlet a chwaraewr rhyngwaldol Ieuan Evans, dywedodd: "Peidiwch anghofio pan chwaraeodd Rhys Priestland doedd fawr o neb wedi clywed amdano yn 2008 ac edrychwch ar ei lwyddiant ef erbyn hyn.
"O'r hyn yr wyf yn ei glywed o Barc y Scarlets, mae'r hyfforddwyr a'r cefnogwyr yn meddwl lot o Jordan Williams ac fe all ddatblygu i fod yn gystadleuaeth brwd i Rhys am grys y maswr yn rhanbarthol. Fe fydd yn brofiad arbennig i'r chwaraewyr i fod yn rhan o'r tim."
Mae Her Rygbi'r Arwyr er budd Help for Heroes ac mae'n cael ei gefnogi gan JP Morgan. Fe fydd y gem yn cael ei chwarae ar ddydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr 2011 yn Stadiwm Twickenham cic gyntaf 4.30pm. Mae tocynnau ar gael o Ticketmaster am £15 oedolyn, £10 dan 16. Am wybodaeth pellach ewch i www.heroesrugby.org.uk.











