Gyda disgwyl gweld torf fawr o gefnogwyr Munster dewch i ni roi croeso twymgalon Cymreig ym Mharc y Scarlets! Mae'r Scarlets yn galw arnoch chi, eu cefnogwyr cartref, i ddod yn eich nifer ar gyfer un o gemau a sialensau mwyaf y tymor. Roedd y dorf lleisiol yn Franklin's Gardens, Northampton yn hwb mawr i'r chwaraewyr - maent yn awr yn galw arnoch chi am eich cefnogaeth yn yr ornest Cwpan Heineken hon.
Dywedodd y reng ol Rob McCusker ei fod yn falch o fod yn ol anaf gyda mis mawr o rygbi o'u blaenau: "Mae pawb yn siarad am y gem fawr yn erbyn Munster ac ry'n ni gyd yn ymwybodol pa mor bwysig yw'r gem i ni fel chwaraewyr ac i'r cefnogwyr. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar bob gem a chymryd pob gem o ddifrif; mae'n rhaid i ni gadw'r momentwm i fynd.
"Ry'n ni'n falch iawn o fod mewn grwp mor gystadleuol yn y Cwpan Heineken a chael y cyfle i ddangos yr hyn ry'n ni'n gallu ei gyflawni. Mae Munster ym Mharc y Scarlets yn mynd i fod yn enfawr ac mae torf fawr yn gallu ychwwanegu i'r achlysur, awyrgylch a'r gem. Fe fyddwn ni'n wynebu torf fawr ym Mharc Thormond yr wythnos wedyn felly byddai'n braf gweld Parc y Scarlets yn llawn dydd Sadwrn nesaf."
Mae'n addo bod yn brynhawn arbennig i'r teulu oll gyda drysau Pentref Cefnogwyr Daioni yn agor am 12.30pm. Fe fydd amrywiaeth arebnnig o gerddoriaeth byw yn ogystal a'ch holl ffefrynau gan gynnwys gwyl TAG, bwyd a diod a llawer mwy. Fe fydd bariau'r stand yn agor am 1.30pm gan roi digon o amser i chi fwynhau'r awyrgylch Ewropeaidd.
Mae tocynnau ar gael o'r Swyddfa docynnau, ffoniwch 0871 871 8088, prynwch ar y we www.scarlets.co.uk neu cysylltwch a Kate Jenkins ar 01554 783927 / kate@scarlets.co.uk am ostyngiadau grwp.
Mae croeso i'n holl grwpiau rhanbarthol wrth i ni ddathlu cefnogaeth gorllewin y rhanbarth ar ddiwrnod Sir Benfro a Cheredigion.
Scarlets v Munster, holl antur Cwpan Heineken ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 10fed Rhagfyr, cic gyntaf 3.40pm.











