5 Chw, 20:46
Aeth Cymru at i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon heddiw yn Stadiwm Aviva gyda help llaw y Scarlets Jonathan Davies, George North a Rhys Priestland.
Scarlets
Er mwyn cwblhau profiad diwrnod gêm ym Mharc y Scarlets mae’r Academi Dawns Gorllewin Cymru yn ymuno â ni yn y stadiwm gyda’i grwp o Cheerleaders sydd yn perfformio cyn ac ar ôl y gêm.
Os hoffech weld dawnswyr y Scarlets yn perfformio ewch i Bentref y Cefnogwyr cyn gêm cartref, neu gwyliwch hwy yn ystod y gêm o flaen Stand Gravells y Gogledd.
Mae’r Academi yn cynnal gwersi dawns ar draws Gorllewin Cymru, gan gynnwys yng Nghanolfan Hyfforddi Dan-do Parc y Scarlets ar nos Wener.
Am wybodaeth pellach ar yr Academi, neu am wybodaeth am sut y gallwch ymuno gyda dawnswyr y Scarlets cysylltwch â Melissa McPhee, Cyfarwyddwr Academi Dawns Gorllewin Cymru ar info@westwalesacademyofdance.co.uk