SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Cefnogwyr

Pentref y Cefnogwyr

Pentref y Cefnogwyr

Fel atodiad newydd i'r holl weithgareddau sydd yn digwydd yn y stadiwm eleni y mae Pentref y Cefnogwyr sydd wedi ei leoli yn y Ganolfan Hyfforddi Dan-Do, wrth wrth ochr Stadiwm Parc y Scarlets.
Ar ddiwrnod gêm Pentref y Cefnogwyr yw'r lle i fod cyn symud i'ch sedd o fewn y stadiwm. Mae'r Scarlets yn hapus iawn gyda'r ffordd y mae'r cefnogwyr wedi ymateb i'r Pentref a'r cyfle y mae'n rhoi i bobl gyfarfod aelodau o'r garfan.
Mae yna nifer o weithgareddau'n digwydd yn y Pentref ar gyfer aelodau o'r cyhoedd o bob oed. Ymysg y gweithgareddau a'r cyfleusterau y gallwch fwynhau y mae;

  • Gwyl Rygbi
  • Ardal chwarae i blant
  • Bar alcohol
  • Gardd Gwrw
  • Gardd Deulu
  • Stondin Siop
  • Siop Losin
  • Mochyn Rhost
  • A llawer llawer mwy


Dyma'r lle i fod ar ddiwrnod gêm! Mae Pentref y Cefnogwyr yn agor dwy awr cyn y gic gyntaf ac mae'n agored ar ôl y gêm hefyd i chi fwynhau peint neu ddiod meddal cyn mynd sha thre'!

Newyddion Cefnogwyr

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management