SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Fans

Eich Aelodaeth Tocyn Tymor

MANYLION PECYNNAU TOCYN TYMOR

Prisiau agoriadol unigryw yn cychwyn 28/5/2011 tan Gwener 30/6/2011 fe fydd y prisiau'n dychwelyd i'r pris llawn o hynny ymlaen Buddion Safonol i bob Daliwr Tocyn Tymor

  • Tocyn gwarantedig yn eich lleoliad dewisol ar gyfer 3 gêm Cwpan Heineken, 11 gêm Cynghrair Magners a 2 gêm Cwpan LV=
  • Nifer o dalebion i wella eich buddion tocyn tymor gan gynnwys gostyngiad ar drafnidiaeth oddi cartref, nwyddau a llawer mwy
  • Pris lletygarwch unigryw i ddalwyr tocyn tymor yn 'Stafell Worthington's Parc y Strade
  • Copi rhad ac ddim o e-gylchgrawn y Scarlets - Sosban, a fydd yn eich cyrraedd yn gwarterol
  • Dyraniad gwarantedig o docynnau ar gyfer rowndiau ail gyfle Cynghrair Magners, Cwpan Heineken a Chwpan LV=
  • Mynediad i'n balot unigryw ar gyfer tocynnau rhyngwladol
  • Gwasnaeth SMS i sicrhau eich bod yn derbyn holl newyddion y Scarlets ac yn derbyn sgor hanner amser a llawn amser gemau cartref ac oddi cartref (mae'n rhaid i chi ddarparu eich rhif ffôn symudol i dderbyn y wasanaeth hwn)

Newydd ar gyfer tymor 2011/2012

  • Cyfle cyntaf i brynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau tu allan i rygbi (mae'n rhaid i chi ddarparu eich rhif ffôn symudol neu ebost i dderbyn y wasanaeth)
  • Taith yn rhad ac am ddim o amgylch Distyllfa Penderyn ar gyfer dalwyr tocyn tymor oedolyn
  • Cyfle i logi Y Clwb yn rhad ac am ddim; nid ar ddiwrnod gêm (termau & amodau)
  • Aelodaeth Clwb Cefnogwyr yn rhad ac am ddim gan gynnwys digwyddiad cyfarfod y chwaraewyr
  • Tocyn tymor teulu 2+2. Mewn ymateb i adborth ein cefnogwyr ry'n ni wedi lansio tocyn teulu newydd i 2 oedolyn a 2 blentyn dan 18. Mae'r tocynnau yma ar gael ym mloc N4 gyferbyn a thy clwb mwya'r byd - Pentref y Cefnogwyr yng Nghanolfan Delme Thomas, lle mae cyfle i oedolion a phlant fwynhau dwy awr o adloniant, cerddoriaeth, rygbi tag, diod a bwyd ac ymddangosiad gan chwaraewyr hyd at ddwy awr cyn gem.

Yn ogystal a'r uchod fe fydd y canlynol yn cael eu dewis wrth ddewis y pecynnau penodol.

Noddwr Carwyn James

  • Mynediad i Lolfa Carwyn James 2 awr cyn gêm ac hyd at 2 awr ar ôl y chwiban olaf
  • Tocyn gêm swyddogol tu allan i lolfa Carwyn James
  • Tocyn tymor yn rhad ac am ddim i gemau Clwb Rygbi Llanelli a mynediad i lolfa Phil Bennett
  • Parcio yn rhad ac am ddim ym maes parcio'r stadiwm ar gyfer gemau Clwb Rygbi Llanelli
  • Rhaglen diwrnod gêm y Scarlets
  • Gostyngiad o 20% oddi ar safle parcio ym maes parcio Corus (Pris arferol £64 i bob car)

Strade

  • Eich sedd presennol yn stand y Gogledd neu'r De
  • Aelodaeth rhad ac am ddim i'r Clwb gyda mynediad 2 awr cyn gêm ac hyd at 2 awr ar ôl y chwiban olaf (yn ddibynnol ar le yn yr ystafell a chyntaf i'r felin)
  • Tocyn tymor yn rhad ac am ddim i gemau Clwb Rygbi Llanelli (Pris arferol £75 y sedd y tymor)
  • Gostyngiad o 10% oddi ar safle parcio ym maes parcio Corus (Pris arferol £64 i bob car)

1872

  • Tocyn gêm swyddogol ger hanner ffordd yn Stand y Gogledd neu'r De (gweler cynllun y stadiwm)
  • Mynediad i'r Clwb 2 awr cyn gêm ac hyd at 2 awr ar ôl y chwiban olaf (yn ddibynnol ar le yn yr ystafell a chyntaf i'r felin)
  • Tocyn tymor yn rhad ac am ddim i gemau Clwb Rygbi Llanelli (Pris arferol £75 y sedd y tymor)
  • Gostyngiad o 5% oddi ar safle parcio ym maes parcio Corus (Pris arferol £64 i bob car)

Cliciwch yma am wybodaeth pellach am docynnau tymor gan Mark Davies

Newyddion Cefnogwyr

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 The Scarlets. Statistical Data © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management