Mae Y Clwb wedi ei adnewyddu a'i ailwampio ac yn awr ar agor fel caffi sy'n gweini brechdannau, bwyd twym, diodydd a chacennau cartref. Fe fydd Café Y Clwb ar agor Llun - Gwener o 9am - 4pm gyda bwydydd twym ar gael rhwng 9am a 3pm, ac ar ddydd Sul o 12pm - 4pm. Cewch gyfle unigryw i weld rhai o sêr carfan y Scarlets ac mae Y Clwb yn le gwych i chi gynnal eich boreuau coddi, cinio busnes neu i fwynhau coffi gyda ffrindiau.
Mae Y Clwb yn un o'r llefydd unigryw yng Ngorllewin Cymru sydd a phrofiad is-gogydd sydd wedi gweithio i'r Brodyr Roux, Michel ac Albert, yn y Le Gavroche, Llundain, sydd a thri seren Michelin. Mae'r profiad a'r arbenigedd o weithio gyda rhai o gogyddion gorau'r byd i'w weld yn ein cacennau cartref.
Ry'n ni'n gweini bwydlen newydd - gwybodaeth i ddod yn fuan.
Diodydd & Cacennau
| Pot o De i 1 | £1.50 |
| Pot o De i 2 | £2.50 |
| Americano | £1.55 / £1.75 |
| Espresso | £1.25 / £1.45 |
| Latte | £1.75 / £1.95 |
| Cappucino | £1.75 / £1.95 |
| Mocca | £1.75 / £1.95 |
| Siocled Poeth | £1.95 / £2.25 |
| Siocled Poeth Caramel | £2.10 / £2.40 |
| Joch o Goffi | £0.25 |
| Sudd Blasus | £0.25 |
| Malws-Felys | £0.25 |
| Hufen Chwistrellu | £0.25 |
| Pice ar y Maen / Bara Brith | £1.50 |
| Cacennau & Cookies | £1.50 |
Carferi Dydd Sul Y Clwb
Mae'r Clwb yn gweini carferi Dydd Sul, triwch carferi gorau'r Gorllewin. Ry'n ni'n cynnig dau amser gweini (12:00pm and 2:00pm).
Cynnig carferi Dydd Sul - 2 gwrs am £9.95 yn unig