Mae stadiwm Parc y Scarlets yn cynnig amrywiaeth eang o ystafelloedd sydd ar gael i chi eu llogi. Gallwch eu defnyddio ar gyfer parti penblwydd, bedydd, priodas neu ar gyfer gwledd ar ôl angladd, mae gennym ystafell a fydd yn addas ar eich cyfer.
Rydym yn gallu arlwyo ar gyfer partion mor fach a 10 ac hyd at 350 o bobl. Mae ein tîm arbennigol yn gallu darparu ar eich cyfer a sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant arbennig.
Beth am llogi 'Y Clwb' ym Mharc y Scarlets ar gyfer eich dathliadau?
Y Clwb yw'r lle perffaith i'ch teulu a ffrindiau ddod ynghyd i ddathlu digwyddiad pwysig.
Mae'r ystafell yn berffaith ar gyfer dathlu Penblwydd, Penblwydd Priodas, Bedydd neu Phriodas a llawer mwy. Mae gan yr ystafell far, digonedd o le eistedd, mynediad hawdd, digonedd o le i ddifyrru'ch gwesteion a pharcio am ddim gerllaw; Y Clwb yw'r lle perffaith ar gyfer eich digwyddiad neu ddathliad.
Fe allwn drefnu lluniaeth ar eich cyfer gyda amrywiaeth arbennig o fwydlennu ar gael a fydd yn gweddu i'ch cyllid a'ch dant!
Os hoffech drefnu'ch lluniaeth eich hunain fe allwch llogi'r ystafell am £100.00+taw am y noson!
Am wybodaeth pellach cysylltwch a'r tîm cynhadleddau a digwyddiadau ar 01554 783922 neu ebostiwch michelle@scarlets.co.uk
| Ymholiad Cynadledda |
| Am wybodaeth pellach neu i dderbyn copi o'n egatalog cysylltwch â'r tîm ar 01554 783922 neu cwblhewch y ffurflen isod - Diolch |