SCARLETS V LONDON IRISH

Armed Forces Day: Jan 28th @ 6:30pm
Bookmark and Share
Stadiwm

Parcio

Diwrnodau heblaw am ddiwrnodau gêm

Mae gennym 290 o lefydd parcio o amgylch y stadiwm ac mae'n bosib i chi ddefnyddio rhain, am ddim, pan nad oes gêm. Os ydych yn dod i Amgueddfa a Siop y Stadiwm neu yn dod i Gynhaldedd mae croeso i chi ddefnyddio'r maes parcio.

Diwrnod Gêm - O amgylch y Stadiwm

Mae'r llefydd parcio o amgylch y stadiwm ar gyfer dalwyr tocyn parcio yn unig ar ddiwrnod gêm.

Mae gennym 26 lle parcio anabl o amgylch y stadiwm. Mae rhain ar gael i Ddalwyr Tocyn Tymor Anabl a dalwyr Bathodyn Glas eu prynu ar ddechrau pob tymor.

Rydym yn cadw 3 lle parcio anabl o amgylch y stadiwm i gefnogwyr oddi cartref. Rydym yn dosbarthu'r tocynnau yma trwy system cyntaf i'r felin. £3 wrth ddangos Bathodyn Glas. Cysylltwch â'r Dderbynfa ar 01554 783900.

Mae gennym safle gollwng Anabl o flaen Stand Castell Howell y De sydd ar gael hyd at awr cyn y gic gyntaf. Os ydych yn cyrraedd o fewn awr i'r gic gyntaf mae safle gollwng Anabl ar Heol Maes y Dafen.

Diwrnod Gêm - Meysydd parcio eraill

Fe fydd Maes Parcio A a B ar agor i gefnogwyr cyn gemau'r Scarlets fel maes parcio talu ac arddangos. Mae gennym dros 700 o lefydd ar gael.Pris parcio yw £3 y cerbyd.

Dalwyr Tocyn Parcio yn unig fydd yn cael parcio ym Maes Parcio Corus.

Mynediad i'r Meysydd Parcio

Teithio o Abertawe:

trowch i'r chwith oddi ar cylchfan Parc Pemberton, dilynwch yr arwyddion, wrth y gylchfan bach mae Maes Parcio B yn syth o'ch blaen. Ewch yn syth ymlaen i faes parcio Corus.

Teithio o'r Gorllewin (canol y dref):

Wrth gylchfan Trostre, cymerwch yr ail heol i'r chwith ac yna'r trydydd heol i'r chwith, oddi ar gylchfan Parc Pemberton. Dilynwch yr arwyddion, wrth y gylchfan bach mae maes parcio B yn syth o'ch blaen. Trowch i'r chwith i faes parcio A. Ewch yn syth ymlaen i faes parcio Corus.

Teithio o'r Heol Arfordirol a Throstre:

Wrth gylchfan Trostre, cymerwch y trydydd heol i'r chwith ac yna'r trydydd heol i'r chwith, oddi ar gylchfan Parc Pemberton. Dilynwch yr arwyddion, wrth y gylchfan bach mae maes parcio B yn syth o'ch blaen. Trowch i'r chwith i faes parcio A. Ewch yn syth ymlaen i faes parcio Corus.

Teithio o'r M4 (Gogledd):

Wrth gylchfan Trostre, cymerwch yr heol cyntaf i'r chwith ac yna'r trydydd heol i'r chwith, oddi ar gylchfan Parc Pemberton. Dilynwch yr arwyddion, wrth y gylchfan bach mae maes parcio B yn syth o'ch blaen. Trowch i'r chwith i faes parcio A. Ewch yn syth ymlaen i faes parcio Corus.

Mynediad ac Allanfa Cefnogwyr i'r Stadiwm o Faes Parcio A a B, a Corus

O faes parcio A a B: cerddwch i gornel gogledd ddwyrain maes parcio B, bydd angen i chi groesi'r heol i gael mynediad trwy'r danffordd.

O faes parcio Corus: dilynwch y llwybr o'r maes parcio i'r tanffordd.

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management