Lletygarwch

Blychau Lletygarwch

Lletygarwch

Mae gan Barc y Scarlets 15 o flychau lletygarwch sy'n edrych dros y cae ac yn cynnig cyfle perffaith i chi ddifyrru'ch cleientiaid a chyd-weithwyr tra'n mwynhau awyrgylch digwyddiad yn y stadiwm mewn lleoliad cyfforddus.

Fe fydd gennych chi a'ch gwesteion gyfle i ddefnyddio'r blwch hyd at 3 awr cyn digwyddiad gan ddefnyddio'r fynedfa arbennig. Wrth gyrraedd fe fydd ein staff lletygarwch profiadol yn eich croesawu ac yn barod i'ch cynorthwyo.

Yn ogystal mae'r blwch yn leoliad perffaith i gynnal cyfarfodydd busnes, cyrsiau hyfforddi neu yn syml er mwyn cael lle tawel i weithio i ffwrdd o'ch swyddfa i chi wneud gwaith swyddfa.

Manteision bod yn Ddaliwr blwch
• Balconi Preifat 10 sedd ar gyfer bob un o gemau cartref y Scarlets gan gynnwys Cynghrair Magners, Cwpan Eingl-Gymreig a gemau grwp Cwpan Heineken. Ond mae'n bosibl cael lle i 12 tocyn petai angen.
• Balconi Preifat 10 ar gyfer gemau cartref Clwb Rygbi Llanelli. Ond mae'n bosibl cael lle i 12 tocyn petai angen.
• 12 rhaglen swyddogol gemau'r Scarlets a Chlwb Rygbi Llanelli am ddim i'ch gwesteion.
• 2 le parcio
• Yr hawl i brynu tocynnau blwch ar gyfer pob digwyddiad tu allan i'r calendar rygbi ym Mharc y Scarlets
• Hawl i ddefnyddio'r blwch ar ddiwrnod tu allan i'r calendar rygbi ar gyfer cynadleddau a gwledda
Prisiau cychwynol o £12,000 ar gyfer pob blwch y tymor a TAW

Am wybodaeth pellach neu i archebu'ch lle cysylltwch â Leyton Williams ar 01554 783944 neu leyton@scarlets.co.uk

Ymholiadau Corfforaethol
Am wybodaeth pellach neu i archebu lle cwblhewch y ffurflen isod
Enw
Ebost
Sylwadau


Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2010 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management