Mae Clwb Busnes ResQ yn ffordd hynod o boblogaidd o ddifyrru'ch cwsmeriaid, ac mae'r Clwb yn tyfu bob tymor.
Mae Clwb Busnes ResQ yn cael ei gynnal yn Lolfa Quinnell. mae'r ystafell yn rhoi'r cyfle i chi a'ch gwesteion ymlacio wrth wylio'r rygbi a chyfuno busnes gyda phleser. Mae croeso i chi ddefnyddio eich aelodaeth i ddiddanu cwsmeriaid neu fel diolch i'ch staff neu profiad bythgofiadwy i'ch teulu.
Mae'ch aelodaeth yn cynnig
- Defnydd o Lolfa Quinnell ym Mharc y Scarlets cyn ac ar ôl gêm
- Seddau da yn y Clwb Busnes
- Eich seddau ar gyfer pob gêm yng Nghyngrair Magners
- Eich seddau ar gyfer pob gêm yng Nghwpan LV=
- Eich seddau ar gyfer pob gêm yn rowndiau'r grwp yng Nghwpan Heineken
- Pryd o fwyd cyn y gêm a lluniaeth ar ôl y chwiban olaf
- Bar yn y Lolfa
- Lle parcio ar gyfer pob trwydded
- Rhaglen swyddogol i bob un o'ch gwesteion gyda logo eich busnes ynddo
- Cyswllt i gwefan eich cwmni i wefan swyddogol y Scarlets
- Eich seddau ar gyfer gemau Clwb Rygbi Llanelli gyda mynediad i Lolfa Phil Bennett cyn ac ar ôl gemau
Manteision eraill gyda'ch trwydded
- Cyfle i brynu tocynnau Rhyngwladol i wylio Cymru (1 tocyn i bob 2 sedd Clwb Busnes)
- Cyfle i brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau eraill ym Mharc y Scarlets yn ddibynnol ar y digwyddiad
- Cyfle i archebu ystafelloedd ym Mharc y Scarlets ar gyfer Cynhadledda a Digwyddiadau tu allan i'r calendr rygbi
Prisiau o £1,000 y sedd bob tymor a TAW
Am wybodaeth pellach cysylltwch â Leyton Williams ar 01554 783944 neu cwblhewch y ffurflen isod






