Mae Gatorade wedi cyfuno gyda nifer o bartneriaid newydd gan gynnwys New Balance, Polar, Power Music, Neilson Active Holidays a The National Magazine Company i gynnig cyfle i dros 22 miliwn o athletwyr Gatorade i ennill gwobrau gwerth £1 miliwnn a mwy gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, cerddoriaeth, profiadau unigryw a gwyliau chwaraeon.
I fod yn rhan o’r ymgyrch, fe fydd angen i unigolion gasglu côd o boteli Gatorade a fydd yn cyd-fynd â pwyntiau. Fe allwch gasglu’r pwyntiau ar y we (www.gatorade.co.uk) a thrwy tecst. Fe fydd y pwyntiau yn cael eu trosglwyddo i arian i’w wario ar eitemau chwaraeon. Gall unigolion sy’n cymryd rhan ennill amrywiaeth o wobrau fel sesiynau hyfforddi i brofiadau unigryw. Fe all timau gasglu pwyntiau hefyd i dderbyn tocynnau Aur, Arian neu Efydd.
Mae Gatorade yn cael ei ddefnyddio gan athletwyr yn fwy na unrhyw ddiod chwaraeon arall yn y byd gan gynnwys athletwyr fel Serena Williams a Kaka. Lansiwyd Gatorade yn y DU yn 2008 ac mae’n falch o fod yn un o’r diodydd gorau heb lliwiau na blas ffug. Fe fydd Gatorade yn cefnogi timau a digwyddiadau yn ystod 2010 gan gynnwys y Scarlets, Rygbi’r Alban, Clwb Pêl-Droed Chelsea a Ironman UK. Am wybodaeth pellach ewch i www.gatorade.co.uk.




