Fe allwch fwynhau noson o hiraeth rygbi yn ystod noson arbennig yng Ngwesty'r Diplomat yng nghwmni yr arwr rygbi Phil Bennett.
Fe fydd y seren a chwaraeodd dros y Llewod, Cymru a Llanelli yn adrodd straeon, atgofion ac yn dweud ei farn am ei yrfa rygbi, o’r diwrnod hanesyddol hwnnw ym Mharc y Strade ym 1972 pan drechodd Llanelli y Crysau Duon, i’w gap rhyngwladol cynta’ yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 20 oed, ei deithiau gyda’r Llewod i Dde Affrica ym 1974 a’i gyfnod fel capten ar y daith i Seland Newydd ym 1977.
Cynhelir y diwgyddiad ar nos Iau 18 Chwefror, er lles Ymddiriedolaeth Ray Gravell a’i Ffrindiau ac fe fydd yn cynnwys buffet twym ac adloniant gan y comediwr Colin Price a’r WEDGES.
Pris tocynnau yw £18, ac fe allwch eu prynu o Westy’r Diplomat (01554 756156) neu o swyddfa’r Ymddiriedolaeth elusennol ar 01554 758171.