Gyda’r haul yn tywynu daeth dros 1,500 o rhedwyr ynghyd i rhedeg y 13 milltir a ddechreuodd wedi 11.30am.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar Barc Arfordirol y Mileniwm, yn un blynyddol bellach a dyma’r tro cynta’ i mascot y Scarlets, Cochyn, gymryd rhan ynghyd a thim o staff y Scarlets.
Roedd athletwyr o bob safon yn rhan o’r digwyddiad, o rhedwyr proffesiynol i gerddwyr ac athletwyr cadair olwyn. Dyma’r pumed flwyddyn yn olynol i’r marathon gymryd lle ac mae’n cynyddu mewn pwysigrwydd a chefnogaeth.
Dywedodd Swyddog Cymunedol y Scarlets, Justin Lloyd, a rhedodd yng ngwisg y mascot am ddwy awr: “Roedd yn wych i orffen, roedd yn eitha’ twym yn y wisg ac roedd y gwynt yn chwythu’r pen o un ochr i’r llall. Rwy’n falch iawn bod y tim wedi gorffen. Roedd yn wych i fod yn rhan o’r ras mewn lleoliad mor braf.
“Mae’n ddigwyddiad mawr ar galendr Llanelli ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi gymaint o ddigwyddiadau yn ein rhanbarth a phosib. Diolch i bawb oedd mor gefnogol ac roedd yn wych i weld cynifer o gefnogwyr y Scarlets yn bresennol, yn enwedig dros y milltir neu ddwy ola’ pan oedd y coesau wedi pallu!”
Trefnwyd y digwyddiad gan ‘Human Being Active’ a chefnogwyd gan bartneriaid stadiwm y Scarlets, Cyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal a phroject Glannau Llanelli.











