Aeth tri o chwaraewyr lleol y Scarlets i glwb Abergwaun a Goodwick wythnos diwethaf i gynnig help llaw gyda sesiwn hyfforddi.
Aeth Aled Thomas o Gaerfyrddin, Dan Newton o Hendy gwyn a Gareth Davies o Gastellnewydd Emlyn yn ol i Orllewin Cymru i gynorthwyo gyda sesiwn hyfforddi i'r tim dan 8.
Trefnwyd y noson gan Adran Gymunedol y Scarlets ac fe gafodd y plant gyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol sydd angen i chwarae rygbi.
Os hoffech dderbyn ymweliad gan dim Cymunedol y Scarlets cysylltwch a'r tim ar 01554 783927 neu ebositwch community@scarlets.co.uk.