Gallwch ymweld â unrhyw gêm cartref y Scarlets – boed yng Nghynghrair Magners, Cwpan Eingl-Gymreig neu chystadleuaeth Cwpan Heineken. Mae’r galw am docynnau ar gyfer rhai o’r gemau llawer yn uwch nac eraill ac mae’r tocynnau yn ddibynnol ar nifer, felly os hoffech ddod i gêm benodol, cysylltwch â’r Adran Gymunedol cyn gynted â phosib er mwyn osgoi siom!
Mae’r cyfanswm y gallwch gasglu ar gyfer eich grwp yn ddibynnol ar y nifer o docynnau y byddwch yn eu prynu…Y nifer mwyaf o gemau y byddwch yn mynychu y mwy o arian y gallwch gasglu!
Gallwch fynychu un gêm y tymor yn unig neu fe allwch dargedu gemau penodol yn ystod y tymor! Beth am wahodd ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr os ydych yn dod ar gyfer ymwelaid Arian yn Ôl, nid oes rhaid i chi gadw’r tocynnau ar gyfer eich clwb rygbi, ysgol neu grwp yn unig! Wrth archebu’r lleiafrif o docynnau yn enw eich Clwb Arian yn Ôl, fe fydd eich grwp yn derbyn 50% o’ch gwerthiant.
Yr unig beth sydd angen i fod yn rhan o’r cynllun Arian yn Ôl yw bod eich grwp yn prynu lleiafrif o 20-30 o docynnau, yn ddibynnol ar y gêm.
Y nifer o docynnau sydd yn rhaid i chi eu prynu ar gyfer y mwyafrif o gemau Cynghrair Magners yw 20, Cwpan Eingl-Gymreig 25 a 30 ar gyfer gemau Cwpan Heineken. Gall y tocynnau fod mewn unrhyw rhan o’r stadiwm ac unrhyw bris. (yn ddibynnol ar y tocynnau sydd ar gael)
Ar gyfer pob tocyn a brynnir fe fyddwch yn derbyn HANNER Y PRIS YN ÔL o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y gêm, a fydd yn cael ei dalu trwy BACS i’ch cyfrif banc. Ffordd cyflym a hawdd o’ch gwobrywo am ddilyn y Scarlets!
10 Tocyn Oedolyn yn y Gorlan £20.00 x 10 = £200
10 Tocyn Ieuenctid yn y Gorlan £5.00 x 10 = £50.00
Cyfanswm £250
Fe fydd eich clwb yn derbyn Arian yn Ôl gwerth £125.00
Yn ogystal a hyn gallwch ennill cymhellion ychwanegol wrth fynychu mwy a mwy o gemau:
1 Gêm = Arian yn Ôl
2 Gêm = Arian yn Ôl + Pecyn Cit Bach
3 Gêm = Arian yn Ôl + Pecyn Cit + Sesiwn rygbi ar gyfer eich clwb yng Nghanolfan Hyfforddi Dan-do, Parc y Scarlets
1 Gêm = Arian yn Ôl
2 Gêm = Arian yn Ôl + Llun o’ch ymweliad â Pharc y Scarlets mewn ffram ac wedi ei arwyddo gan y garfan
3 Gêm = Arian yn Ôl + Pecyn Cit + Sesiwn rygbi ar gyfer eich clwb yng Nghanolfan Hyfforddi
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer unrhyw rhan o’r stadiwm. Fodd bynnag, fe fydd galw uwch ar gyfer rhai o’r gemau, er enghraifft gemau Cwpan Heineken a gemau darbi lleol. Fe fydd y tocynnau yn ddibynnol ar nifer ar gael, ond rydym yn argymell eich bod yn cysyttlu gyda swyddfa Arian yn Ôl cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau eich tocynnau.
O fewn 14 diwrnod o fwynhau eich ymwelaid Arian yn Ôl, fe fyddwch yn derbyn tâl i’ch cyfri banc trwy BACS. Mae’n rhaid i enwi’r cyfri fod yr un peth a enw’r sefydliad, ysgol, clwb – ni fyddwn yn gallu gwneud taliadau i gyfrifau personol.
Gallwn dalu’r arian trwy siec mewn achlysuromn arbennig, er enghraifft cyfrifon Sefydliadau Adeiladu.
Trefnydd eich grwp fydd y prif gyswllt gyda Adran Gymunedol y Scarlets. Maent yn gyfrifol am archebu a gwerthu’r tocynnau a gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer eich ymweliad â Pharc y Scarlets.
Y trefnydd sydd yn gwneud y gwaith caled trwy’r tymor – ond fel diolch am ei gwaith caled, mae yna Wobr Arian yn Ôl ar gyfer Trefnydd Gorau’r Tymor!
Fe fydd cynlluniau ar y gwell trwy’r tymor hefyd i ‘ennill’ pethau ychwanegol megis eitemau wedi ei arwyddo a nwyddau. Fe fydd gwobrau ar gyfer y Clybiau gorau, Nifer mywaf o ymweliadau ac werth gwrs y Trefnydd gorau – rheswm arall i chi werthu mwy o docynnau!
Llenwch y ffurflen gofrestru a’i ddychwelyd i’r ‘Adran Arian yn Ôl’ neu cysylltwch â’r Adran Arian yn Ôl ar 01554 783927 os oes gennych gwesitynau pellach.