SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Cymuned

Cynllun Ysgolion

Mae'r cwmni adeiladwaith llwyddiannus o Lanelli, TAD Builders Ltd wedi penderfynu cydweithio a'r Scarlets i lansio cynllun newydd ar gyfer ysgolion uwchradd trwy Sir Gâr.

No ALT tag specified

Chwaraewyr y Scarlets Jon Davies a Ken Owens gyda Anthony Jones a Delwyn Jones o TAD Builders sy'n noddi cynllun newydd i wobrwyo disgyblion yn ysgolion uwchradd Sir Gar.

Bwriad y cynllun yw i gynnig tocyn tymor i ddisgyblion i ddod i wylio gemau difyr Cwpan Heineken a'r Cynghrair Magners ym Mharc y Scarlets yn ystod tymor 2010/11.

Mae disgyblion rhwng 11-18 yn holl ysgolion y sir yn gallu ennill y gwobrau arbennig yma, a noddwyd gan TAD Builders, am waith neu llwyddiannau arbennig - boed yn academaidd, chwaraeon neu'n gymdeithasol. Fe fydd yr enillwyr yn derbyn tocyn tymor y Scarlets.

Mae'r cynllun newydd wedi derbyn cefnogaeth y sector addysg yn Sir Gâr ac fe fydd yn golygu bod grwpiau o blant ysgol uwhcradd yn gallu mwynhau holl ddifyrrwch gemau ym Mharc y Scarlets.

Dywedodd Anthony Jones o TAD Builders Ltd, sy'n gweithio'n ddiwyd yn y sector addysg: "Bwriad hwn yw i ysbrydoli pobl ifanc yn eu bywyd ysgol yn ogystal a rhoi gwobrau iddynt am eu llwyddiannau.

"Mae'r Scarlets yn gweithio'n agos yn y cymunedau er mwyn ysbrydoli a datblygu talentau pobl ifanc mewn rygbi trwy'r rhanbarth ac mae'r cynllun yma'n rhoi cyfleoedd i fwy o blant ysgol i fod yn rhan o deulu'r Scarlets ac i weld eu harwyr ar y cae y tymor hwn.

"Mae Parc y Scarlets yn stadiwm arbennig ac mae'n gyfleuster arbennig i'r teulu oll yn ogystal a grwpiau o bobl ifanc. Fel rhan o'u ffocws i annog mwy o gefnogwyr ifanc i fwynhau rygbi ry'n ni'n falch iawn i fod yn rhan o gynllun arbennig fel hwn.

"Mae chwaraeon yn ffordd da o ysbrydoli plant a phobl ifanc - mae gwylio rygbi yn ffordd arbennig i ffrindiau ddod i fwynhau mewn awyrgylch diogel a hwylus.

Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets, Rupert Moon: "Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i TAD Builders yn Llanelli am fod yn gwmni sy'n poeni am y gymuned ac am noddi'r cynllun yma.

"Ry'n ni'n awyddus i weld grwpiau o bobl ifanc yn mwynhau gemau ym Mharc y Scarlets ac mae hwn yn ffordd arbennig o wneud hynny.

"Am £16 yn unig, fe all disgyblion ysgolion uwchradd ddod i fwynhau 13 gem o rygbi ym Mharc y Scarlets. Does dim llawer o lefydd yn cynnig y fath yna o fargen diwrnodau yma. Ry'n ni'n awyddus i weld grwpiau o ffrindiau'n dod ynghyd i weld gemau ym Mharc y Scarlets, i fwynhau diwrnod yn y stadiwm a gwylio'u harwyr ar y cae chwarae."

Mae TAD yn gwmni teuluol a sefydlwyd dros 30 mlynedd yn ôl - mae'r cwmni wedi ei leoli yn swyddfeydd newydd Temple Works ers Ionawr 2010. Mae'r cwmni'n aelod o sefydliadau cenedlaethol.

Ewch i wefan TAD Builders http://www.tadbuilders.co.uk/

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management