Nid timau Dan 8 i dimau Dan 11 yw'r unig rhai sy'n gallu bod yn rhan o brofiad Diwrnod Gêm Parc y Scarlets.
Mae'r gemau cyn cic gyntaf y brif gêm ar y cae hyfforddi wedi profi i fod yn ychwanegiad poblogaidd iawn wrth i ni gyfuno holl hwyl gemau lleol gyda'r wefr o wylio gemau cartref y Scarlet sym Mharc y Scarlets.
Mae'r gemau yn agored i dimau dan 12 i dan 15. Fe allwn gynnal 2 gêm gystadleuol ar gyfer 4 tim ar ddiwrnodau gêm.
1. Fe fyddwch yn derbyn tocynnau yn rhad ac am ddim i'r garfan a dau hyfforddwr i ddod i wylio gêm y Scarlets ac fe fyddwch yn gallu defnyddio holl gyfleusterau Pentref y Cefnogwyr cyn y gêm.
2. Mae'n rhaid i bob tim brynu lleiafrif o 25 tocyn ar gyfer gêm y Scarlets. Mae rhieni, ffrindiau a theuluoedd yn gallu prynu tocynnau trwy'r cynllun Gostyngiad Grwp.
3. Cyfle i gyfarfod aelodau o garfan y Scarlets a chael llun o'ch tim gyda'r chwaraewyr.
4. Mae Gemau Cyn Gêm yn agored i unrhyw glwb i ymweld a Pharc y Scarlets.
5. Mae pob gêm yn cael eu dyfarnu gan ddyfarnwyr annibynnol URC.
6. Mae Gemau Cyn Gêm ar gael o fis Med ii fis Hydref a mis Mawrth i fis Mai.
Cysylltwch a'r adran gymunedol ar
community@scarlets.co.uk os hoffech weld eich tim chi'n cymryd rhan, ebostiwch eich enw, oed y tim a'r gêm yr hoffech fynychu.