Gwyl Rygbi Pentref y Cefnogwyr
Mwynhewch holl hwyl Pentref y Cefnogwyr ar ddiwrnod gêm gan ddod a'ch tim chi i gymryd rhan yn yr Wyl Tag a Sgiliau cyn gêm ym Mhentref y Cefnogwyr.
Mae'r wyl ar agor i 4 tim i gymryd rhan dwy awr cyn y gic gyntaf yn awyrgylch diogel y Pentref. Mae rhieni a chefnogwyr yn gallu cefnogi'r tim o'r asgell tra'n mwynhau holl gyfleusterau'r Pentref.
Mae Gwyliau Pentref y Cefnogwyr ar agor i ysgolion a chlybiau o Dan 8 i Dan 11.
Fe fydd pob tim a fydd yn rhan o'r wyl yn derbyn tocynnau i'r gêm ac mae croeso i rhieni a ffrindiau brynu tocynnau trwy'r Cynllun Gostyngiad Grwp.
Fe fydd pob tim yn cael y cyfle i gyfarfod aelodau o garfan y Scarlets a chael llun o'r tim gyda'r chwaraewyr, a fydd yn cael eu hanfon atoch fel atgof o'ch diwrnod arbennig ym Mharc y Scarlets.