
Mae tim Cymunedol y Scarlets yn trefnu ystod eang o weithgareddau ar ddiwrnodau gêm y Scarlets gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae profiad diwrnod gêm yn cynnig cyfleoedd i ysgolion, clybiau a grwpiau ieuenctid i gymryd rhan ym mhrofiad unigryw Parc y Scarlets.
Mae 'Pentref y Cefnogwyr' yn cynnig lleoliad unigryw i gefnogwyr hen ac ifanc, i wneud y mwyaf o'r awyrgylch cyn gêm mewn adeilad dan-do.
Mae gwyliau a thwrnamentau ieuenctid yn cymryd lle ym Mhentref y Cefnogwyr, cyn gemau cartref, ac mae'n brofiad anhygoel i chwaraewyr ifanc.
Mae'r 'Pentref' yn cynnwys ardal bar oedolion a gardd gwrw i'r teulu. Mae yna ddigonedd o weithgareddau ar gyfer y plant gan gynnwys 'inflatables' y Scarlets, peintio wynebau a lluniaeth. Mae yna Mochyn Rhost blasus iawn a byrbrydiau at ddant pawb.