SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Diwrnod Gêm

Tag Hanner Amser

Burry Port

Rygbi Tag 2010 - 2011

Mae Tag Hanner Amser y Scarlets yn un o uchafbwyntiau diwrnod gêm i glybiau'r rhanbarth. Mae Tag Hanner Amser yn hynod o boblogaidd ac mae'n denu dros 1,000 o Scarlets y dyfodol i'r stadiwm i gael y cyfle i fod yn westai arbennig ar ddiwrnod gêm ym Mharc y Scarlets a chael y cyfle i chwarae ar y cae.

Gyda'r cyfle i chwarae ar gae Parc y Scarlets o flaen y dorf cartref mae'n brofiad unigryw i dimau ieuenctid y rhanbarth ac mae'n parhau yn hynod boblogaidd gyda'r Clybiau Rhanbarthol.
Ethos ein Tag Hanner Amser yw:

1. I fwynhau'r diwrnod arbennig gyda'ch cyd-chwaraewyr, ffrindiau a chefnogwyr
2. Profi awyrgylch arbennig diwrnod gêm ym Mharc y Scarlets
3. Cyfarfod aelodau o garfan y Scarlets cyn y gêm ym Mhentref y Cefnogwyr a chael llun cofiannol o'r tim gyda rhai o'r chwaraewyr.
4. Chi a'ch tim i gymryd rhan yn y linell anrhydedd ar y cae
5. Cyhoeddiad dros y system sain a chroeso yn rhaglen y gêm

Mae'r timau'n cael eu dewis trwy system cyntaf i'r felin, ac rydym yn derbyn timau Dan 8 i Dan 11.

Os hoffech weld eich tim yn chwarae Tag Hanner Amser cysylltwch yn ysgrifenedig ar community@scarlets.co.uk gyda'ch enw, oed y grwp a'r gêm yr hoffech gymryd rhan ynddi.

Mae'r pwyslais ar sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau'r profiad o chwarae ym Mharc y Scarlets gyda'u teuluoedd yn gwylio ymhlith miloedd o gefnogwyr eraill!

Mae'r timau a 2 hyfforddwr yn cael mynediad am ddim i'r gêm ac mae'n bosib i rhieni ac aelodau eraill o'r teulu archebu tocynnau trwy'n Cynllun Tocynnau Grwp.

Fe fyddwn yn debygol o dynnu lluniau ar gyfer eu defnyddio mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol. Rhowch wybod i ni os nad ydych am i'ch plentyn fod yn y lluniau a dynnir gan ein ffotograffyd swyddogol yn ystod y Tag Hanner Amser.


Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management