SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Cymuned

Teithiau o'r Stadiwm

Dilynwch ôl traed eich harwyr wrth ddilyn Taith Stadiwm y Scarlets ac fe gewch gipolwg tu ôl i'r llenni yn stadiwm arbennig Parc y Scarlets.

Ydych chi erioed wedi eisiau gweld beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni ym Mharc y Scarlets?

Os ydych chi eisiau gwybod yn union lle mae eich hoff chwaraewr yn newid ar ddiwrnod gêm neu yn hyfforddi yn ystod yr wythnos yna mae'n rhaid i chi ddod ar daith o amgylch Parc y Scarlets!

Yn ystod y daith fe gewch chi'r cyfle i weld yr holl ardaloedd sy'n cael eu defnyddio ar ddiwrnod gêm - fe allwch gerdded ar hyd y twnel ac edrych o amgylch ystafell newid y Scarlets cyn gorffen y daith yn yr Amgueddfa.

Dewch i weld beth sy'n gwneud y Scarlets yn arbennig ac yn un o'r clybiau mwyaf adnabyddus yn y byd rygbi. Dewch a'ch teulu a'ch ffrindiau gyda chi, trefnwch daith i'ch ysgol neu grwp - mae croeso i bawb!

Mae'n hanfodol eich bod chi'n archebu'ch lle ar y daith er mwyn sicrhau eich lle. Nid yw'n bosib i chi gael taith ar ddiwrnod gêm neu diwrnod cyn y gêm.

Mae'r daith yn parhau tua 45 munud i awr. Mae'n rhaid cael lleiafrif o 10 person i a mwyafrif o 30 person.

Ebostiwch eich cais i community@scarlets.co.uk gyda detholiad o ddyddiadau sy'n addas ar gyfer eich grwp.

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management