
Chwaraeodd 34 o gemau dros Gymru, gan sgorio dau gais.
Chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf ar 16 Chwefror 1991, yn erbyn yr Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad. Aeth ymlaen i chwarae dros ei wlad yn erbyn Ffrainc yn yr un flwyddyn.
Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer yr un bencampwriaeth ym 1993 ond cafodd ei gadw ar y fainc am y mwyafrif o'r gystadleuaeth hyd nes iddo ddod i'r cae yn yr ornest olaf yn erbyn Ffrainc. Enillodd gap yn erbyn Zimbabwe, Canada a Siapan yn yr un flwyddyn.
Cafodd dros 10 cap ym 1994. Chwaraeodd ei rhan yng Nghwpan y Byd ym 1995 yn Ne Affrica. Ym 1996 enillodd naw cap dros Gymru.
Cynrychiolodd y Barbariaid hefyd.