
Yn ei dymor olaf gyda'r tim ieuenctid cafodd ei wahodd gan Glwb Rygbi Llanelli.
Chwaraeodd Nigel Davies 397 o gemau dros Lanelli, gan gynnwys naw Cwpan Her URC (record y clwb) ac fe sgoriodd 115 o geisiau.
Cafodd ei apwyntio fel dirprwy hyfforddwr Cymru pan gymrodd Gareth Jenkins drosodd fel hyfforddwr y tim rhyngwladol a chafodd ei wneud yn Brif Hyfforddwr Dros Dro ar ôl i Jenkins adael wedi Cwpan y Byd yn 2007.
Cyhoeddwyd Davies fel prif hyfforddwr y Scarlets ar 14 Mai 2008, yn dilyn ymadawiad Phil Davies ym mis Ebrill 2008.