SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Bookmark and Share
Treftadaeth
Phil Davies

Phil Davies

Chwaraeodd Phil Davies 331 o gemau dros Lanelli ac fe sgoriodd 80 o geisiau. Roedd yn gapten dros y tim am chwech tymor yn olynnol. Enillodd 46 cap dros Gymru rhwng 1985 a 1995.

Roedd Davies yn chwarae defnyddiol oherwydd ei allu i chwarae fel blaenasgellwr, rhif wyth neu clo.

Chwaraeodd rhan yn "Brwydr Caerdydd" ym 1987, ymgyrch garw iawn rhwng Cymru a Lloegr lle wynebodd Davies dwrn Wade Dooley y clo.

Blasodd Davies fuddugoliaeth yn ei gêm rhyngwladol gyntaf, gêm y chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, Jonathan Davies, ynddi hefyd.

Roedd Davies yn Gyfarwyddwr Rygbi gyda'r Leeds Tykes o 1996 i 2006 cyn ymddeol o'r swydd.

Roedd yn hyfforddwr dros y Scarlets rhwng 2006 a 2008.

Fe gynrychiolodd y Barbariaid hefyd.

© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management