Cyflwynodd Huw Evans, Cadeirydd y Scarlets, crys cwarteri gwreiddiol i bob un o'r cyn chwaraewyr gyda'i rhif a'i henw arno.
Ymysg yr enwogion oedd yn bresennol oedd Delme Thomas, Phil Bennett, Derek Quinnell, Phil May, Ieuan Evans, Robin McBryde a Scott Quinnell - i enwi ond llond dwrn.
Yn ystod hanner amser cyflwynwyd rhoddion i'r 12 cyn Gadeirydd a Llywydd a'r presennol fel diolch am eu gwaith caled i'r rhanbarth.
Perfformiodd un o gantorion enwocaf Cymru, Caryl Parry Jones, ei hanthem 'West is Best' a gyfansoddwyd ar gyfer ac a berfformiwyd ganddi yn angladd Ray Gravell.
Dathlwyd digwyddiadau cofiadol rygbi Parc y Strade gan dalu teyrnged i'r nifer o gemau, ceisiau, buddugoliaethau, buddugolaieth yn erbyn timau teithiol, chwaraewyr a cynulleidfaoedd y maes trwy gydol ei hanes anhygoel.
Tynnwyd llun y tim a'r 12 cyn Lywydd a Chadeirydd yng nghanol y cae ar ôl y chwiban olaf.
I gloi'r noson daeth dau gôr meibion i'r cae o bob pen i'r maes yn canu Sospan Fach ac yna'r Anthem Genedlaethol. Taniwyd tân gwyllt i gwblhau noson tanboeth o atgofion ac emosiynau.