SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Bookmark and Share
Treftadaeth

Gorymdaith y Cyn-Gapteiniaid

Fel rhan o'r dathlu, talwyd teyrnged i 23 cyn gapten Llanelli a'r Scarlets yn ystod y seremoni agoriadol cyn dechrau'r gêm yng nghwmni Tîm Ysgolion Llanelli Dan 11.

Dyma ychydig o wybodaeth am bob un o'r cyn gapteiniaid.

HANDEL GREVILLE

• Capten 1948-1949
• Chwaraeodd yn safle'r mewnwr
• Roedd yn Gapten,Gadeirydd ac yn Lywydd ar y clwb. Yr unig ddyn i fod yng ngofal y tri swydd.
• 1 Cap dros Gymru yn erbyn Awstralia yn nhymor 1947-1948

PETER EVANS

• Capten 1953-1954 a'r flwyddyn olynnol 1954-1955
• Chwaraeodd fel blaenasgellwr ac roedd yn ymosodol iawn yn y reng ôl fel ei frawd Hagen gynt.
• Cafodd ei adnabod wrth ei lysenw "blondie"
• 2 gap dros Gymru yn erbyn Lloegr a Ffrainc 1951

RAY WILLIAMS


• Capten 1955-1956
• Chwaraeodd fel asgellwr
• Prif sgoriwr ceisiau'r clwb 1948-1949, 1951-1952 i 1958-1959 a 1960-1961.
• Sgoriodd 213 o geisiau dros y clwb
• 3 chap dros Gymru yn erbyn yr Alban 1954, Ffrainc 1957 ac Awstralia 1958

HOWARD (ASH) DAVIES


• Capten 1958-1959
• Chwaraeodd fel prop
• Roedd yn chwaraewr garw ac yn arweinydd brwysg fel Capten.

ONLLWYN BRACE


• Capten 1959-1960 & 1960-1961
• Chwaraeodd fel mewnwr
• 9 cap dros Gymru rhwng 1956 & 1961
• Fe fuodd yn Gapten dros Gymru hefyd

AUBREY GALE

• Capten 1961-1962
• Chwaraeodd ym mhob un reng yn y sgrym.

MARLSTON MORGAN


• Capten am gyfnod yn nhymor 1962-1963 a 1963-1964
• Blaenasgellwr a chwaraeodd dros 400 o gemau dros lanelli
• Roedd yn gapten dros y clwb pan ddaeth Seland Newydd i'r dref ym 1963
• Cadeirydd presennol Clwb Rygbi Llanelli ac yn aelod o Fwrdd y Scarlets

JOHN LELEU


• Capten 1965-1966 & 1966-1967
• Reng ôl aml bwrpas a fuodd yn gapten dros 3 clwb - Cymry Llundain ac Abertawe
• 4 cap dros Gymru yn ystod ei yrfa

STUART GALLACHER

• Stuart oedd y capten ieuengaf a ddewiswyd erioed yn hanes y clwb. Ef oedd Capten y clwb ym 1968-1969 a 1969-1970. Roedd yn gapten yn erbyn De Affrica ym 1970
• Roedd yn ail reng angerddol ac yn aml yn arwain y tîm hyd yn oed oddi ar y cae!
• Gyrfa Rygbi'r Gynghrair llwyddiannus hefyd
• 1 cap dros Gymru yn erbyn Ffrainc ym 1970
• Ef oedd y chwaraewr cyntaf o Lanelli i chwarae dros y Barbariaid yn erbyn tîm tramor
• Chwaraeodd 12 o weithiau dros y Barbariaid
• Aeth ar daith gyda'r Barbariaid i Dde Affrica ym 1969

CLIVE JOHN


• Capten 1970-1971
• Blaenasgellwr a chwaraeodd fel mewnwr yn ystod ei yrfa gyda ieuenctid Llanelli
• Chwaraeodd ei ddau frawd Barry ac Alan dros Lanelli hefyd
• Ef oedd prif sgoriwr ceisiau'r clwb yn nhymor 1967-1968

BARRY LLEWELYN


• Capten 1971-1972
• Chwaraeodd ei dad Bryn dros Lanelli - dilyn traddodiad teuluol
• Chwaraeodd fel prop. Sicrhaodd ei bwer a'i symudoldeb ei fod yn cael ei gofio fel un o reng flaen gorau'r clwb
• Chwaraeodd yn y fuddugolaieth enwog dros Seland Newydd ym 1972. Roedd ei frawd Brian ar y fainc ar gyfer y gêm hefyd
• Enillodd 13 cap dros Gymru

DELME THOMAS


• Capten yn ystod canmlwyddiant Llanelli ym 1972-3. Capten y tîm a drechodd Seland Newydd ar 31ain Hydref 1972.
• Chwaraeodd yn yr ail reng
• Capten dros Gymru 25 o weithiau
• Aeth ar dri taith gyda'r Llewod ym 1966, 1968 & 1971

PHIL BENNETT

• Capten 1973-1974 i 1978-1979 - 6 tymor yn olynol
• Capten dros Gymru - 1976-1977 1977-1978
• Capten y Llewod ym 1977. Aeth ar daith ym 1974 hefyd
• Arweiniodd Gymru i'r Gamp Lawn
• Sgoriodd 132 o geisiau a 2,532 o bwyntiau dros ei glwb mewn 412 o gemau.

DEREK QUINNELL


• Capten 1979-1980
• Chwaraeodd yn yr ail reng a'r reng ôl
• 372 ymddangosiad dros Lanelli
• Capteiniodd Cymru yn erbyn Romania a chynrychioliodd Cymru 23 o weithiau
• Aeth ar dri taith gyda'r Llewod ym 1971, 1977 a 1980
• Chwaraeodd dros y Llewod cyn cael cap i Gymru
• Roedd yn gawr o flaenwr ac mae wedi trechu Seland Newydd 4 o weithiau
• Tad Scott, Craig a Gavin, y tri ohonynt hefyd wedi cynrychioli'r Scarlets
• Llywydd presennol clwb Rygbi Llanelli ac Aelod o Fwrdd y Scarlets

PHIL MAY

• Capten o 1982-1983 i 1986-1987 - 5 tymor yn olynol
• Capten Llanelli yn erbyn Maoris Seland Newydd ar y 6ed o Dachwedd - buddugoliaeth o 16-9
• Chwaraeodd yn yr ail reng ac ef sydd wedi chwarae y mwyaf o gemau dros y clwb - 552 o gemau
• 7 cap dros Gymru

PHIL DAVIES


• Capten o 1987-1988 i 1991-1992 (5 tymor yn olynol) a 1995-1996
• Chwaraeodd yn yr ail reng a'r reng ôl
• 331 o gemau dros Lanelli
• Enillodd 46 cap dros Gymru
• Hyfforddwr y Scarlets rhwng 2006 a 2008 gan gyrraedd rownd cyn derfynol Cwpan Ewropeaidd yn nhymor 2006-2007

RUPERT MOON

• Capten Llanelli o 1992-1993 i 1994-1995 - 3 tymor yn olynol
• Capten y clwb pan enillwyd y teitl 'Tîm Prydeinig y Tymor' yn nhymor 1992-1993 mewn blwyddyn gofiadwy pan enillwyd y Gynghrair, Cwpan URC a threchwyd y Wallabies
• Chwaraeodd yn safle'r mewnwr
• Chwaraeodd 272 o gemau dros Lanelli gan sgori 77 o geisiau
• 24 o gapiau i Gymru

IEUAN EVANS


• Capten ym 1996-1997. Roedd yn gapten Cymru 28 o weithiau - record sydd yn parhau hyd heddiw
• Asgellwr
• 231 o gemau dros Lanelli
• 193 o geisiau
• 72 o gapiau dros Gymru
• Aeth ar dri taith gyda'r Llewod ym 1989, 1993 a 1997

ROBIN McBRYDE


• Capten o 1997-1998 i 1998-1999. Enillodd Llanelli Cwpan URC yn ei dymor cyntaf fel Capten
• Bachwr
• 37 o gapiau dros Gymru
• Aeth ar daith y Llewod yn 2001

WAYNE PROCTOR

• Capten ym 1999-2000. Enillodd Llanelli cwpan URC yn ystod ei gyfnod fel capten
• Asgellwr
• 302 o gemau dros Lanelli
• 182 o geisiau
• 39 o gapiau dros Gymru

SCOTT QUINNELL

• Capten y clwb yn 2000-2001 a 2001-2002
• Gellir dadlau mai ef yw'r rhif 8 gorau erioed i wisgo crys y Scarlets
• 52 o gapiau dros Gymru
• 178 o gemau dros Lanelli a 69 o geisiau
• Aeth ar daith y Llewod ddwy waith. Ym 1997 gyda Richmond ac yn 2001 gyda Llanelli

LEIGH DAVIES


• Capten 2002-2003 a 2003-2004.
• Canolwr cryf a chyflym
• 21 o gapiau dros Gymru
• Chwaraeodd 69 o gemau dros y Scarlets
• 17 o geisiau

SIMON EASTERBY


• Capten y tymor o 2004-2005 hyd at 2008-2009. 5 tymor yn olynol
• Arbenigwr yn y reng ôl sydd wedi rhoi o'i orau i'r Scarlets. Mae wedi bod yn arweinydd o fry ac yn ysbrydoliaeth i nifer
• 65 o gapiau dros yr Iwerddon
• Aeth ar daith y Llewod yn 2005
• Roedd 2008/09 yn dymor deyrnged i Simon

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management